Neidio i'r prif gynnwys

Mannau Cyhoeddus

Archwilio is-bynciau

Beth yw Mannau Cyhoeddus?

Mae man cyhoeddus fel arfer yn agored ac yn hygyrch i bobl. Mae ffyrdd, palmentydd, sgwariau cyhoeddus, parciau, meysydd parcio a thraethau fel arfer yn cael eu hystyried yn fannau cyhoeddus. Yn ogystal, mae adeiladau’r llywodraeth sydd ar agor i’r cyhoedd, megis llyfrgelloedd, hefyd yn fannau cyhoeddus.

Mae mannau cyhoeddus yn rhoi llawer o gyfle i bobl ddod at ei gilydd ac ymgysylltu â’r gymuned. Maent yn bwysig ar gyfer cydlyniant cymunedol. Mae mannau cyhoeddus yn debygol o newid dros amser o ganlyniad i effeithiau ffisegol sy’n cael eu hachosi, er enghraifft gan adeilad, ond gall yr amgylchedd hefyd newid os bydd pobl yn defnyddio neu’n camddefnyddio’r gofod hwnnw.

Rhoddwyd mwy o sylw i ymddygiad pobl mewn mannau cyhoeddus yn sgil pandemig Covid-19 ac achos Sarah Everard. Mae Strydoedd Mwy Diogel Rownd 3 a Chronfa Diogelwch Merched yn y Nos wedi bod yn canolbwyntio ar wella diogelwch, yn benodol ynghylch atal trais yn erbyn merched (gweler Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol).

Y prif broblemau mewn mannau cyhoeddus yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym mhob ffurf, yn cynnwys pori anghyfreithlon, aflonyddwch, tanau, trais rhywiol, troseddau cyllyll a throseddau eraill gydag arfau ymosodol. Dyma hefyd yw canolbwynt Protect yn dilyn ymosodiadau mewn mannau cyhoeddus (gweler Terfysgaeth ac Eithafiaeth).

Atal yw’r prif ffocws mewn mannau cyhoeddus – yn cynnwys cyfyngu ar amseroedd mynediad, cael mwy o deledu cylch caeedig, cynyddu presenoldeb y gwasanaethau brys, cynllunio gwell, a mesurau eraill i rymuso’r rhai sydd fwyaf mewn perygl. Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys gwaith i gael gwared â throseddu (gweler Atal Troseddu), a Diogelwch y Cyhoedd yn cynnwys gwytnwch ac argyfyngau sifil posibl.

  • Roedd Deddf Mannau Agored 1906 yn caniatáu i awdurdodau lleol fod yn berchen ar neu rentu mannau cyhoeddus gan gynnwys ar gyfer datblygu palmentydd neu ar gyfer gweithgareddau hamdden pobl.
  • Yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cafodd mannau gwyrdd cyhoeddus eu hymestyn i gynnwys gerddi a pharciau trefol, parciau gwledig, camlesi a glannau afonydd.
  • I weld y ddeddfwriaeth ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym mhob ffurf, gan gynnwys pori anghyfreithlon, aflonyddwch, tanau, trais rhywiol, troseddau yn ymwneud â chyllyll ac arfau ymosodol eraill, ewch i’r adrannau perthnasol ar y wefan. 
  • Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 

Mae’r Ddeddf hon yn amlinellu’r chwe ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sef: gwaharddebau sifil, gorchmynion ymddygiad troseddol; hysbysiadau amddiffyn cymunedol; gorchmynion gwarchod mannau agored cyhoeddus; gorchmynion cau; pwerau gwasgaru. Cyflwynwyd hefyd y sbardun cymunedol a dulliau unioni cymunedol.

  • Gwaharddebau sifil 

Mae llysoedd yn dyfarnu gwaharddebau i rwystro pobl rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir eu dyfarnu heb rybudd ond maent ar gael dim ond os oes trais wedi cael ei fygwth neu wedi cael ei ddefnyddio.

  • Gorchmynion ymddygiad troseddol

Fe’u rhoddir gan lys troseddol yn erbyn person sydd wedi ei gael yn euog o drosedd ac sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

  • Pwerau gwasgaru

Mae’r rhain yn galluogi’r heddlu i roi gorchymyn i berson sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.

  • Hysbysiadau amddiffyn cymunedol

Gall awdurdodau lleol, yr heddlu a rhai cymdeithasau tai eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o broblemau, megis taflu sbwriel a niwsans sŵn.

  • Gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus

Gall awdurdodau lleol eu defnyddio i atal ymddygiad parhaus, afresymol a/neu niweidiol.

  • Comisiwn Dylunio Cymru

Siarter Creu Lleoedd Cymru (YouTube)

Dolenni Defnyddiol

Llywodraeth Cymru – Canllawiau lefel rhybudd 0

Gweld y Canllawiau

Cymdeithas Llywodraeth Leol – Canllawiau am Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

Gweld y Canllawiau

Newyddion y BBC – Galwad ar i holl gartrefi Cymru fod o fewn munudau i ofod gwyrdd (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol)

Darllenwch yr Erthygl

Chwarae Cymru – Rhannwch fan cyhoeddus sy’n gyfeillgar i blant

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Cynigir cymorth a chefnogaeth ar gyfer mannau cyhoeddus drwy’r awdurdodau lleol, yr heddlu a gwasanaethau brys eraill.

I gael cymorth a chefnogaeth ar gyfer y gwahanol fathau ewch i’r adrannau perthnasol ar y wefan.