Neidio i'r prif gynnwys

Tensiynau Cymunedol / Cydlyniant Cymunedol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Tensiynau Cymunedol / Cydlyniant Cymunedol?

 “Mae tensiwn cymunedol yn ddigwyddiad sy’n gallu bygwth heddwch a sefydlogrwydd cymunedau a gall arwain at anhrefn neu drosedd. Mae tensiynau yn gallu datblygu pan fydd diffyg ymddiriedaeth yn datblygu rhwng cymunedau neu’r sefydliadau maent yn dibynnu arnynt e.e. yr Heddlu, Awdurdod Lleol, cwmnïau gwasanaeth neu’r Llywodraeth. Mae tensiynau hefyd yn gallu bod yn gysylltiedig gyda digwyddiadau lleol, cenedlaethol neu ryngwladol.” Safe Newcastle

Mae tensiynau cymunedol yn gallu arwain at Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ymddygiad gwael mewn Mannau Cyhoeddus, Troseddau Casineb, Aflonyddu, Trais Difrifol ac Eithafiaeth a Therfysgaeth. Mae hefyd yn aml yn arwain at fethiant mewn perthynas rhwng pobl mewn cymunedau a’r Heddlu, Awdurdodau Lleol neu gyrff cyhoeddus eraill.

Roedd Covid-19 wedi arwain at densiynau cymdogaeth ychwanegol oherwydd bod pobl adref am amser hirach, a dryswch a gorbryder ynglŷn â newid cyfyngiadau (Arolwg YGG Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2021).  Roedd hyn yn dilyn tensiynau a achoswyd gan ymgyrch a phenderfyniadau Brexit.

Roedd terfysg Mayhill 2021 o ganlyniad, o leiaf yn rhannol i densiynau cymunedol, gyda’r sawl oedd yn rhan ddim yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain mwyach (BBC News).

 “Mae cymunedau Cymru yn gynyddol amrywiol ac yn wynebu heriau oherwydd mudo economaidd, amddifadedd a thlodi, gwahaniaethau rhyng-genhedlaeth, y cynnydd mewn trosedd casineb a bygythiad eithafiaeth. Mae cynghorwyr a chynghorau Cymru yn chwarae rôl arweinyddiaeth gymunedol allweddol i annog integreiddio a chydlyniant cymunedol.” CLILCCLlLC

“Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod Cymru yn wlad gynhwysol ble mae pobl o bob cefndir yn cael eu croesawu a dim dioddef senoffobia, rhagfarn ar sail hil na chulni”. Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a’r trydydd sector yn gweithio i sicrhau bod cydlyniant yn rhan o bob cymuned. Mae rhan o hyn yn cael ei wneud drwy’r timau a chydlynwyr cydlyniant cymunedol. Eu rôl yw cysylltu â chymunedau, darparu sicrwydd a galluogi cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol.

 

Mae Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys Cymru gyda chymunedau cydlynus fel un o’r 7 nod lles, ond eto rhwng 2013/14 a 2018/19 roedd y nifer o bobl oedd wedi cytuno bod yna gydlyniant cymunedol da yn eu cymuned leol wedi gostwng o dros 60% i ychydig dros 50%. Roedd yna hefyd gynnydd mewn troseddau casineb.

“Mae cydlynu a chysylltu cymunedau yn rhannau pwysig o les unigol pobl ac mae mwy o bobl nawr yn sylweddoli gwerth caredigrwydd, cymuned a chysylltiadau lles.” Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae cydlyniant cymunedol yn ymwneud â chynhwysiant, gwneud yr ymdrech i wybod am eraill, trin y naill â’r llall gyda pharch a datblygu perthnasoedd da rhwng gwahanol rannau o’r gymuned.

Mae cymunedau cydlynus sydd wedi cysylltu’n dda yn fwy gwydn i newid ac mae pobl yn fwy caredig gyda’i gilydd.  Mae’n arwain at unigolion a chymunedau yn derbyn ymddiriedaeth a grym i wneud y pethau sydd o bwys a bod ganddynt fynediad da i gyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â Iechyd, Addysg, Tai a Diogelwch Cymunedol. Mae Cydlyniant Cymunedol yn disgrifio gallu pob cymuned i weithio a thyfu mewn cytgord gyda’i gilydd yn hytrach na gwrthdaro.

  • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl sydd â “nodweddion a ddiogelir”: hil, rhyw, anabledd, oedran, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, priodas a phartneriaeth sifil, a beichiogrwydd a mamolaeth.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi cyflwyno 7 nod lles sy’n cynnwys: Cymru mwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynol, Cymru iachach a Chymru gwydn.

Bydd gan Awdurdodau Lleol gysylltiadau i’r Rhwydwaith Cydlynwyr Cydlyniant Cymunedol ac mae’n bosibl y bydd ganddynt gynllun lleol. Gweler y Cyfeiriadur ar gyfer dolenni i’r gwefannau Awdurdod Lleol.


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr o drosedd dylech roi gwybod i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges testun at 999 os ydych wedi cofrestru o flaen llaw gyda’r GwasanaethSMSBrys.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno bod yn anhysbys, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad i gefnogaeth gan Victim Support, yn cynnwys trwy eu llinell gymorth 24/7 cenedlaethol am ddim ar 08 08 16 89 111, neu gael cymorth ar-lein.