Neidio i'r prif gynnwys

Cyn-filwyr (gan gynnwys Cyfamod y Lluoedd Arfog)

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog a beth mae Cyn-filwyr yn ei olygu?

 “Mae cyn-filwyr yn cael eu diffinio fel unrhyw un sydd wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (Rheolaidd neu Wrth Gefn) neu Lynges Fasnachol sydd wedi gweld dyletswydd ar weithrediadau milwrol a ddiffinnir yn gyfreithiol.

 

Mae ‘Rhywun sy’n Gadael Gwasanaeth’ yn derm am rywun sydd yn symud neu

wedi rhoi’r gorau i fod yn aelod o Luoedd Arfog EM. Mae’r term ‘Gadael Gwasanaeth’ yn nodweddiadol yn cael ei ddefnyddio mewn

dogfennau cyfreithiol, gan fod dealltwriaeth a defnydd o’r term ‘cyn-filwr’ yn amrywio

hyd yn oed ymhlith y sawl sydd wedi gwasanaethu. Nid yw llawer o gyn bersonél y Lluoedd Arfog yn y DU yn diffinio eu hunain fel ‘cyn-filwyr’. Swyddfa Materion Cyn-filwyr, Llywodraeth y DU

Roedd Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif yn 2017 bod yna 2.4 miliwn o gyn-filwyr mewn aelwydydd ar draws y DU, yn cynrychioli tua 5% o holl aelwydydd. Roedd 60% o gyn-filwyr dros 65 oed a 40% yn 16 – 64 oed.

 “Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.” Llywodraeth y DU

Mae yna bwyslais penodol ar gyflogaeth, iechyd, y system gyfiawnder a thai. Cyfuniad o wasanaethau datganoledig a heb eu datganoli ond sy’n berthnasol i holl sefydliadau sector cyhoeddus, y trydydd sector a rhai preifat (fel sefydliadau ariannol). Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymuno â chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae yna 6 o Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer ardal pob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

    • Deddf y Lluoedd Arfog 2011: Roedd Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi’i gadw mewn cyfraith, i sicrhau nad yw aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais o ganlyniad i wasanaeth wrth gael mynediad i wasanaethau masnachol a’r Llywodraeth. Ystyriaeth arbennig ble bo’n briodol i’r sawl sydd wedi eu hanafu neu’n galaru.

Mae Bil y Lluoedd Arfog newydd eisoes wedi’i gyflwyno i Dŷ’r Cyffredin ac mae’n datblygu drwy’r camau i fod yn gyfraith. Bydd y Bil yn cynnwys cyfamod y lluoedd arfog mewn cyfraith.


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae Veterans UK  yn darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor i gyn-filwyr fel rhan o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Gellir ffonio Y Lleng Brydeinig Frenhinol ar 0808 802 8080.  Maent yn darparu cymorth i aelodau’r Llynges Frenhinol, y Llu Awyr Brenhinol, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Veterns Gateway testun ar 81212, eu ffonio ar 0808 802 1212, neu fynediad i sgwrs ar-lein neu e-bost drwy eu gwefan.

Dylai cefnogaeth i gyn-filwyr fod ar gael drwy’r Awdurdod Lleol (gweler Cyfeiriadur) fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog.