Neidio i'r prif gynnwys

Troseddau Casineb

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trosedd Casineb?

Troseddau Casineb  “Mae trosedd casineb  yn weithred o drais, gelyniaeth neu frawychiad a anelwyd at rywun oherwydd eu hunaniaeth neu ‘wahaniaeth’ a ganfuwyd. Gall fod yn gysylltiedig â thrais neu ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, hunaniaeth trawsryweddol, rhyw neu oed (er nad yw’r ddau briodoledd diwethaf yn cael eu hadnabod yn swyddogol fel categorïau trosedd casineb yn gyson ar draws y DU). Gall hefyd fod yn gysylltiedig â mwy nag un o’r nodweddion hyn.” Senedd Cymru

Mae’r gyfraith yn nodi pum sail i drosedd casineb:

  • Hil
  • Crefydd
  • Anabledd
  • Tueddfryd Rhywiol
  • Hunaniaeth trawsryweddol

Mae misogyny yn drosedd casineb fydd yn cael ei dreialu o’r Hydref 2021, ond ni fydd yn ddeddfwriaeth nes bydd adolygiad Comisiwn y Gyfraith wedi’i gwblhau.

Mae unrhyw drosedd yn gallu bod yn drosedd casineb os yw’r troseddwr naill ai wedi dangos gelyniaeth neu wedi’i gymell gan elyniaeth yn seiliedig ar un o’r pum sail trosedd casineb y soniwyd amdanynt yn flaenorol. Mae unigolyn yn gallu dioddef mwy nag un math o drosedd casineb.

Mae digwyddiad casineb yn gallu cynnwys cam-drin geiriol, bygythiad o drais, bwlio, brawychiad (gweler Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anhrefn), aflonyddu neu gam-drin ar-lein (gweler aflonyddu Trosedd Seiber/Ar-lein). Mae trosedd casineb yn drosedd casineb unwaith mae trosedd wedi’i gyflawni, sy’n gallu cynnwys trosedd difrifol, trais rhywiol, aflonyddu, dwyn, difrod troseddol, post casineb a thwyll.


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr o drosedd dylech roi gwybod i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges testun at 999 os ydych wedi cofrestru o flaen llaw gyda’r GwasanaethSMSBrys.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno bod yn anhysbys, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad i gefnogaeth gan Victim Support, yn cynnwys trwy eu llinell gymorth 24/7 cenedlaethol am ddim ar 08 08 16 89 111, neu gael cymorth ar-lein.