Neidio i'r prif gynnwys

Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar

Archwilio is-bynciau

Beth yw Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar?

Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth gyntaf i bawb sy’n gweithio gyda ac ochr yn ochr â phobl. Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn pobl o bob ffurf o niwed a chamdriniaeth. Os yw gwasanaethau neu gymorth yn anniogel yna nid ydynt yn addas i’w diben. Felly mae’n flaenoriaeth i’r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau a chymorth sy’n ddiogel a lle mae’r risgiau’n gyfyngedig neu’n cael eu rheoli.

Ym maes diogelu mae ymyrraeth gynnar yn ceisio mynd i’r afael â’r materion a godwyd pan leisiwyd pryder, er mwyn ymdrin â’r sefyllfa y mae unigolyn yn ei hwynebu drwy edrych ar wraidd y broblem. Mae’n ymwneud ag atal problem neu atal problem rhag datblygu ymhellach ar gyfer y dioddefwr. Y nod yw lleihau’r effaith hirdymor ar gyfer y dioddefwr a’u diogelu rhag camdriniaeth neu weithgarwch troseddol.

“Cymorth cynnar, a gaiff ei adnabod hefyd fel ymyrraeth gynnar, yw’r gefnogaeth a roddir i deulu pan mae problem yn ymddangos gyntaf.” NSPCC

Mae diogelu mewn deddfwriaeth yn ymwneud ag osgoi niwed a chamdriniaeth (gan gynnwys esgeulustod) sy’n canolbwyntio ar gam-drin plant a cham-drin oedolion (rydym wedi rhannu hyn yn gam-drin pobl hŷn a cham-drin oedolion mewn perygl).

Mae Adolygiadau Diogelu ac Adolygiadau Lladdiadau Domestig yn cynnwys dysgu o ddigwyddiadau, a’r nod yn aml yw gwella datgeliad cynnar ac ymyriadau i atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Mae effaith Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, a’r ymateb i’r rhai sydd wedi cael y profiadau hyn, yn faes sy’n ymwneud â gweithio’n wahanol ac mae darparu ymyriadau cynnar cyn y Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn cael effaith fwy ar y rhai sydd wedi eu profi. Tra’r ymdrinnir ag Atal Trosedd o dan bynciau eraill, mae’r Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru yn ceisio newid sut rydym yn atal trosedd a gall camau eraill, a allai fod yn ymyriadau cynnar, olygu fod materion yn cael eu rheoli cyn eu bod yn datblygu ymhellach. Atal Trais yw’r maes allweddol cyfredol lle caiff ymyrraeth gynnar ei datblygu gan ddefnyddio Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd i geisio atal trais yn y dyfodol, p’un ai yw hynny’n drosedd â chyllyll, trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol neu’n gam-fanteisio’n droseddol.

Mae ymyrraeth gynnar hefyd yn elfen allweddol ar gyfer Prevent a phroblemau eithafiaeth a radicaleiddio eraill. Fe all troseddau casineb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol alluogi ychydig o adnabyddiaeth gynnar o droseddwyr y gellir eu cefnogi wedyn i newid eu hymddygiad.

  • NSPCC Learning

Cymorth cynnar (neu ymyrraeth gynnar)

  • NSPCC

Podlediad rhaglen Camau at Ddiogelwch

  • Y Rhwydwaith Diogelu Cyd-destunol

Podlediad

Am adnoddau eraill ar gyfer hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth gweler cam-drin plant, cam-drin oedolion mewn perygl, cam-drin pobl hŷn, adolygiadau diogelu ac adolygiadau lladdiadau domestig, Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod ac ymagwedd sy’n deall trawma, ymagwedd iechyd y cyhoedd, atal trais.

Dolenni defnyddiol

Caiff dolenni defnyddiol eu rhestru o dan bob un o’r is-bynciau: cam-drin plant, cam-drin oedolion mewn perygl, cam-drin pobl hŷn, adolygiadau diogelu ac adolygiadau lladdiadau domestig, Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod ac ymagwedd sy’n deall trawma, ymagwedd iechyd y cyhoedd, atal trais.


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Rhowch wybod i’r tîm diogelu yn eich awdurdod lleol am niwed, camdriniaeth ac esgeulustod (gweler y Cyfeiriadur). Rhowch wybod i’r Heddlu drwy ffonio 101 neu rhowch wybod am hyn ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys. Os oes gennych unrhyw bryderon am esgeulustod neu gamdriniaeth, ond eich bod yn dymuno aros yn ddienw, yna gallwch gysylltu â Crimestoppers.