Neidio i'r prif gynnwys

Atal Trais

Archwilio is-bynciau

Beth yw Atal Trais?

Mae Atal Trais yn ymagwedd wedi ei chydlynu ac yn seiliedig ar dystiolaeth i roi terfyn ar ystod o weithredoedd treisgar yn erbyn unigolion a grwpiau. Caiff hyn ei wneud drwy Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd ac mae ystod o bartneriaid yn ymwneud â hyn.

Nododd Llywodraeth y DU 18 o ardaloedd gyda lefel uchel o drais a sefydlodd unedau gostwng trais yn 2019. Yng Nghymru mae yna un ardal a nodwyd sef ardal Llu Heddlu De Cymru, sy’n cynnwys ardaloedd awdurdod lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Chaerdydd. Mae’r Uned Atal Trais yn cynnwys tîm o gynrychiolwyr o’r Heddlu, Swyddfa’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Carchar Ei Mawrhydi a’r Gwasanaeth Prawf a’r trydydd sector.

Mae’r cymorth, prosiectau, rhaglenni a’r ymchwil y mae’r Uned Atal Trais yn eu cyflawni i gyd ar gael ar y wefan
https://www.violencepreventionwales.co.uk/cy/. Gan fod y cyllid yn gysylltiedig ag ardaloedd yr uned gostwng trais, mae darparu’r ymyriadau’n canolbwyntio ar Dde Cymru. Fodd bynnag, mae yna ffocws ehangach ar Gymru gyfan o ran datblygu polisi.

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a’r Uned Atal Trais yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi datblygu canllawiau Cymru i gyflawni’r Ddyletswydd Atal Trais a ddisgwylir fel rhan o Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy brosesau Llywodraeth y DU.

I gael gwybodaeth ar bopeth a all olygu trais gweler bynciau Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig, Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio a Throsedd ac Atal Trosedd.

Fe ymdrinnir â’r gwahanol weithgareddau treisgar a allai gael eu cyflawni o dan y cyfreithiau a’r deddfwriaethau gwahanol a gaiff eu rhestru o dan y gwahanol bynciau. Gweler bynciau Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig, Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio a Throsedd ac Atal Trosedd i gael y manylion hynny.


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst i drosedd neu wedi dioddef trosedd, rhowch wybod i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu rhowch wybod am hyn ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd a’ch bod yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch ag elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi eich effeithio gan drosedd, fe allwch gael cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys drwy eu llinell gymorth genedlaethol yn rhad ac am ddim ar 08 08 16 89 111, 24/7 neu fe allwch gael cymorth ar-lein.

I gael gwybodaeth a chymorth ar gyfer y gwahanol fathau o droseddau treisgar gweler bynciau Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig, Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio a Throsedd ac Atal Trosedd.

I gael gwybodaeth am yr Uned Atal Trais a’r gwaith a’r newidiadau y mae’n eu creu ewch i’w gwefan.