Neidio i'r prif gynnwys

Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd

Archwilio is-bynciau

Beth yw Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd?

Mae Iechyd y Cyhoedd yn ymwneud â gofalu am iechyd, lles a diogelwch poblogaethau cyfan. Mae Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd yn gofyn am gydweithio a chydweithrediad ar draws ystod o bartneriaid, gan gynnwys yn ymwneud â rhannu data. Nodwyd trais fel problem Iechyd y Cyhoedd yn 1996 (gan 49ain Cynulliad Iechyd y Byd).

Mae’r Ymagwedd yn broses pedwar cam sy’n seiliedig ar wyddoniaeth:

  • Nodi neu ddiffinio’r broblem: Fel arfer mae’r cam hwn yn cynnwys casglu data i ddarganfod pwy, beth, pam, lle a phryd. Gall data ddod o faes iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a ffynonellau a phartneriaid eraill.
  • Nodi unrhyw achosion posibl: Chwiliwch am dystiolaeth o ffactorau sy’n rhoi pobl mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr neu’n gyflawnwyr trais ac unrhyw ffactorau a allai atal hyn rhag digwydd.
  • Datblygu a gwerthuso ymyriadau: Defnyddio’r data i gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau i atal trosedd.
  • Cynyddu: Os yw gwerthuso yn dangos fod yr ymyrraeth yn gweithio, yna dylid ei ehangu ar draws sefydliadau, cymunedau, lluoedd yr heddlu ac ar draws Cymru gyfan, tra’n parhau i werthuso pa mor dda y mae’n parhau i gyflawni a pha mor gost effeithiol ydyw.

Sefydliad Iechyd y Byd – Camau Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd

Infographic showing the steps of the public health approach which were detailed in the text above

Sefydliad Iechyd y Byd | Ymagwedd iechyd y cyhoedd  

Mae cyflawni yn canolbwyntio ar dri prif faes. Mae Iechyd y Cyhoedd yn categoreiddio atal mewn tri chategori (gweler hefyd Modelau ac Enghreifftiau o Atal Trosedd ar y dudalen Trosedd ac Atal Trosedd):

  • Atal cynradd: atal trosedd cyn iddo ddigwydd
  • Atal eilaidd: ymateb uniongyrchol i achosion o drosedd
  • Atal trydyddol: sy’n canolbwyntio ar ofal ac adsefydlu hirdymor

 


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Am gymorth a chefnogaeth gweler Atal Trais neu’r manylion o dan bob un o’r meysydd pwnc.