Neidio i'r prif gynnwys

Diogelwch ar y Ffyrdd

Archwilio is-bynciau

Beth yw Diogelwch ar y Ffyrdd?

Diogelwch ar y Ffyrdd a nod GanBwyll, yw helpu i wneud pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau’r nifer o anafusion ac arbed bywydau. Mae’r “5 Angeuol” y ffactorau mwyaf sy’n cyfrannu at wrthdrawiad traffig ffordd sy’n arwain at farwolaethau ac anafiadau difrifol, mae’r rhain yn cynnwys:

  • Goryrru
  • Peidio gwisgo gwregys diogelwch
  • Yfed a gyrru/gyrru ar gyffuriau
  • Defnyddio ffonau symudol tra’n gyrru
  • Gyrru esgeulus / di-hid

Parcio problemus ac yn fwy diweddar mae defnyddio ‘E-sgwteri’, yn broblem i gymunedau. Mae gwybod a chymhwyso’r rheolau yn Rheolau’r Ffordd Fawr yn gallu helpu i leihau’r nifer o anafusion ar y ffyrdd yn sylweddol.

Mae gan y tri gwasanaeth tân ac achub  yng Nghymru rôl allweddol i hybu diogelwch ar y ffyrdd, ynghyd â phedwar llu’r heddlu a phartneriaid diogelwch cymunedol eraill.

Mae Gwylio Cyflymder Cymunedol yn fenter gymunedol ble mae aelodau gweithredol o’r gymuned yn ymuno gyda chefnogaeth yr Heddlu i fonitro cyflymder cerbydau drwy ddefnyddio dyfeisiau datgelu cyflymder.

Yn fwy diogel ar 20mya: Beth am edrych allan am ein gilydd

Mae cyfyngiadau 20mya yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd ledled Cymru lle mae pobl yn byw, gweithio, dysgu a chwarae, o 17 Medi 2023. Bydd hyn yn golygu bod Cymru’n un o wledydd cyntaf y byd i gael terfyn diofyn o 20mya lle mae pobl yn byw, er mwyn cadw ein cymunedau’n fwy diogel a gwella ansawdd bywyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio map rhyngweithiol fydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i awdurdodau priffyrdd fynd drwy’r broses ymgynghori.

Beth yw GanBwyll?

Nod strategol GanBwyll, yw i wneud pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau’r nifer o anafusion ac arbed bywydau. Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am orfodi golau coch a chamera cyflymder ond nid yw lleihau anafusion yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith yn unig.  Mae Partneriaeth Lleihau Anafusion ar y Ffyrdd Cymru yn annog gyrwyr i yrru’n gyfreithiol ac yn ddiogel drwy addysg a drwy gynnig atebion peirianneg parhaol ar ffyrdd.

Diweddariadau Rheolau’r Ffordd Fawr

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn cael eu diweddaru yn rheolaidd.  Gwnaed y newidiadau canlynol yn 2022.

  • Mae’r ddedfryd uchafswm am achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus; ac achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, wedi cynyddu i 14 mlynedd mewn carchar. Mae’r cyfnod gwahardd gorfodol am y ddwy drosedd wedi cynyddu i o leiaf pum mlynedd.
  • Mae trosedd newydd wedi cael ei chreu am achosi anaf difrifol trwy yrru’n beryglus sydd ag uchafswm o ddwy flynedd mewn carchar, dirwy heb gyfyngiad a gwaharddiad gorfodol rhag gyrru.
  • Cyflwyno hierarchaeth newydd o ddefnyddwyr ffordd. Mae’r hierarchaeth yn gosod y defnyddwyr ffordd sydd mewn mwyaf o berygl mewn gwrthdrawiad ar ben yr hierarchaeth. Nid yw’n cael gwared ar yr angen i bawb ymddwyn yn gyfrifol (cerddwyr, beicwyr a’r rhai sy’n marchogaeth ceffyl).
  • Croesi’r ffordd ar gyffyrdd. Dylid rhoi blaenoriaeth i gerddwyr, sy’n golygu y dylai defnyddwyr eraill y ffordd ildio.
  • Mae cerdded, beicio neu reidio mewn mannau a rennir yn berthnasol i gerddwyr, beicwyr a’r rhai sy’n marchogaeth ceffyl.
  • Safle yn y ffordd tra’n beicio.
  • Goddiweddyd tra’n gyrru neu feicio.
  • Beicio ar gyffyrdd, dylai beicwyr ildio i gerddwyr.
  • Dylai pobl sy’n beicio, marchogaeth ceffylau a gyrru cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau aros yn y lôn chwith ar gylchfannau. Mae’r Cod wedi cael ei ddiweddaru i egluro y dylai pobl sy’n gyrru neu reidio beic modur roi blaenoriaeth i bobl sydd yn beicio ar gylchfannau.
  • Parcio, gwefru a gadael cerbydau. Mae’r Cod yn argymell techneg newydd tra’n gadael cerbydau, weithiau fe’i gelwir yn ‘Dutch Reach’. Os bydd gyrwyr neu deithwyr mewn cerbyd yn gallu, dylent agor y drws yn defnyddio’r llaw gyferbyn â’r drws maent yn ei agor.  Er enghraifft, defnyddio eu llaw chwith i agor y drws ar y dde iddynt.  Mae’r Cod yn cynnwys canllaw ar ddefnyddio mannau gwefru cerbydau trydan.

GanBwyll – Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder

Cwrs ar-lein i feicwyr – Gwybodaeth ar beth i’w wneud os mai chi yw’r cyntaf i gyrraedd gwrthdrawiad traffig ffyrdd, yn ogystal â gwyddoniaeth cael eich gweld. Cynhelir gan MAWWFRS mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol.

Dolenni defnyddiol

Llywodraeth Cymru – Yn fwy diogel ar 20mya

Ymweld â’r Ymgyrch

Trafnidiaeth Cymru

Diogelwch ffyrdd – RoSPA

Ewch i’r Wefan

Cymru ar Feic

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Gallwch ymweld â Traffig Cymru am rybuddion traffig.

Rhoi gwybod am achosion traffig ar y ffordd drwy 101, neu 999 mewn argyfwng, gallwch hefyd ddefnyddio adnodd ar-lein yr heddlu – Dyfed Powys; Gwent; Gogledd Cymru; De Cymru.

I gael manylion ar sut i roi gwybod am barcio problemus, ewch i wefan eich cyngor lleol drwy ein Cyfeiriadur.

Mae aelodau o’r cyhoedd yn gallu uwchlwytho fideo a thystiolaeth ffotograffig sy’n ymwneud â throseddau gyrru a dystiwyd, fel rhan o Operation SNAP