Neidio i'r prif gynnwys

Diogelwch yr Awyr Agored (gan gynnwys Dŵr)

Archwilio is-bynciau

Beth yw Diogelwch yn y Dŵr?

Yn ôl Cymdeithas Frenhinol Arbed Bywyd (RLSS), mae mwy na 400 o bobl yn boddi’n ddamweiniol yn y DU ac Iwerddon bob blwyddyn ac mae llawer mwy yn cael profiadau nad yw’n angheuol, weithiau yn dioddef anafiadau sy’n newid bywyd. Mae tua 85% o ddamweiniau boddi yn digwydd mewn safleoedd dŵr agored. Mae llawer o’r damweiniau boddi hyn yn digwydd o ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr agored. Mae egwyddorion sylfaenol diogelwch dŵr agored, wedi’u cyfuno gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o beryglon, yn gallu cynyddu pleser dŵr agored a lleihau’r nifer o achosion sy’n digwydd bob blwyddyn yn sylweddol.

Mae RLSS yn cynghori bod peryglon i’w hystyried mewn dŵr agored yn cynnwys:

  • Mae sioc dŵr oer yn gallu gwneud nofio yn anodd a chynyddu’r anhawster dod allan o’r dŵr.
  • Diffyg offer diogelwch a mwy o anhawster achub.
  • Uchder cwympo neu neidio os yn neidio’n syth i’r dŵr.
  • Dyfnder y dŵr – mae hyn yn newid ac yn anrhagweladwy.
  • Mae’n bosibl na fydd gwrthrychau a pheryglon dan dŵr yn weladwy.
  • Rhwystrau neu bobl eraill yn y dŵr.
  • Mae cerrynt cryf yn gallu sgubo pobl i ffwrdd.
  • Glan afon anwastad.
  • Ansawdd dŵr e.e. gordyfiant o algae gwenwynig a llygredd diwydiannol/amaethyddol.

Gall amodau arfordirol a mynyddig newid yn gyflym, a gallwch fynd i drafferth cyn i chi ei wybod. I fwynhau’r arfordir a’r wlad yn ddiogel, gwiriwch y tywydd cyn i chi fynd allan, gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol, cymerwch unrhyw offer a darpariaethau (fel ffôn symudol, dŵr) a byddwch yn ymwybodol o’r risgiau.

Gwylwyr y Glannau EM - Gwasanaeth chwilio ac achub modern y DU

Beth yw Achub Mynydd?

“Mae aelodau tîm achub mynydd ar alwad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i achub dringwyr o greigiau serth, aduno cerddwyr sydd wedi mynd ar goll gyda’u cyfeillion a sicrhau bod anafusion sâl ac sydd wedi anafu yn cael eu cludo’n ddiogel i ofal ysbyty hanfodol. Ond maent hefyd yn helpu i chwilio am blant sydd wedi mynd ar goll ac oedolion diamddiffyn yn rheolaidd, ar ac oddi ar y mynyddoedd, tra’n cynnig cefnogaeth llawn cydymdeimlad i’w teuluoedd. Maent yn chwilio glan afonydd a dŵr cyflym ac yn rhydio drwy strydoedd trefol dan ddŵr, cynorthwyo nofwyr, caiacwyr a pherchnogion tai anobeithiol.” Achub Mynydd Cymru a Lloegr

Mae Achub Mynydd  yn argymell fod pobl yn Glyfar gydag Antur, drwy fod yn barod yn feddyliol, yn gorfforol a gydag offer. Maent yn cynnig yr argymhellion canlynol cyn i unrhyw un gychwyn allan i fyny’r bryniau, mynyddoedd a rhostiroedd:

  • Gwefru eich ffôn: mae angen para drwy’r dydd. Maent hefyd yn awgrymu cofrestru eich ffôn gyda SMS i’r Gwasanaethau Brys | SMSBrys gan fod testun yn defnyddio llai o fatri na galwadau.
  • Cynllunio’r daith yn ofalus: gan gynnwys ystyried oriau golau dydd ac a oes yna ddigon o amser.
  • Gwirio’r tywydd.
  • Gadewch fanylion o’ch cynllun teithio.
  • Cadwch lygad ar y tywydd: mae’n gallu newid yn sydyn ar fryniau a mynyddoedd.
  • Cadwch y criw gyda’i gilydd.
  • Bwytewch yn dda yn ystod y daith.
  • Gwyliwch am arwyddion o hypothermia.
  • Teithio eich hun: byddwch yn ymwybodol o risg ychwanegol a gwnewch yn siŵr fod rhywun yn gwybod yn union ble ddylech chi fod a phryd.
  • Ewch â’r canlynol gyda chi:
    • Dillad ac esgidiau addas
    • Bwyd a dŵr
    • Map, cwmpawd, tortsh a chwiban
    • Wats
    • Pecyn Cymorth Cyntaf
    • Helmed (os yn beicio neu’n dringo)

Pan fyddwch yng nghefn gwlad dilynwch y cod cefn gwlad er mwyn cadw eich hunain, eraill, bywyd gwyllt ac anifeiliaid eraill yn ddiogel.

Dolenni defnyddiol

Maritime and Coastguard Agency – YouTube

Ewch i’r sianel YouTube

Maritime and Coastguard Agency – GOV.UK 

Ewch i’r Wefan

RNLI – Royal National Lifeboat Institution – Saving Lives at Sea

Ewch i’r Wefan

Cadw’n ddiogel – Achub Mynydd Cymru a Lloegr

Ewch i’r Wefan

Diogelwch yr haf – Eich Cadw yn Ddiogel – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Ewch i’r Wefan

Diogelwch yn y Dŵr – Cymdeithas Llywodraeth Leol

Ewch i’r Wefan

Diogelwch yn y Dŵr – Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Ewch i’r Wefan

Diogelwch yn y Dŵr – Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Ewch i’r Wefan

Diogelwch y Gaeaf – Eich Cadw’n Ddiogel – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Ewch i’r Wefan

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os bydd yna argyfwng, gwnewch nodyn o holl fanylion perthnasol: lleoliad; enw, rhyw ac oed y sawl a anafwyd; natur anafiadau neu argyfwng; nifer o bobl yn y grŵp; eich rhif ffôn symudol.

Os byddwch yn sylwi bod rhywun mewn perygl ar y môr, neu ar yr arfordir, dylech bob amser ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau. Mae Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi yn darparu gwasanaeth chwilio ac achub modern, yn ymateb i alwadau 999 yn ogystal â galwadau radio a lloeren. Pan fydd rhywun mewn trafferth, rydym yn anfon hofrenyddion, cychod achub a thimau achub gwylwyr y glannau. Rydym yn cydlynu hyn o’n 12 ystafell reoli o amgylch arfordir y DU – 24 diwrnod y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Os byddwch angen cymorth brys ar y mynyddoedd, ffoniwch 999, gofynnwch am yr ‘Heddlu’ ac yna ‘Achub Mynydd’.

Gwybodaeth a chyngor gan Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU