Neidio i'r prif gynnwys

Camfanteisio Troseddol ar Blant

Archwilio is-bynciau

Beth yw Camfanteisio Troseddol ar Blant?

Camfanteisio troseddol yw cam-drin plant lle bydd plant a phobl ifanc yn cael eu defnyddio a’u gorfodi i gyflawni troseddau.

Mewn gangiau troseddol cyfundrefnol, mae grwpiau’n cymryd rhan mewn troseddau er mwyn elwa’n bersonol (yn ariannol neu mewn ffyrdd eraill). Mae’r gangiau hyn yn defnyddio technegau meithrin perthynas amhriodol a dulliau eraill i gael plant a phobl ifanc i’w gangiau i gyflawni gweithgareddau troseddol. 

Nid yw pob enghraifft o Gamfanteisio Troseddol ar Blant yn ymwneud â gangiau. Ysgrifennwyd am enghraifft gynnar o hyn yn Oliver Twist pan gafodd Oliver ei orfodi gan unigolyn i dorri i mewn i dŷ. Gallai hyn gynnwys perthynas neu ffrind i’r teulu’n gwneud i blentyn ddwyn o siop. 

Caiff plant a phobl ifanc eu targedu gan eu bod yn aml yn llai amheus a chânt eu hystyried yn fwy diwerth, gan gyfiawnhau eu bod yn cael dedfrydau ysgafnach nag oedolion.

Ceir nifer o resymau i esbonio pam mae plant a phobl ifanc yn ymwneud â gangiau, gall y rhain gynnwys:

  • Pwysau gan gyfoedion, eisiau bod yn rhan o’r criw
  • Teimlo eu bod yn bwysig ac yn cael eu parchu
  • Cael eu hamddiffyn rhag bwlis
  • Gwneud arian a chael gwobrau eraill
  • Ennill statws a theimlo’n bwerus
  • Ddim yn teimlo bod ganddynt ddyfodol beth bynnag.

Dyma rai o’r peryglon i’r plentyn pan fyddant yn rhan o ddulliau camfanteisio troseddol:

  • Cael eu harestio, gan gynnwys troseddau a gyflawnwyd gan aelodau eraill o’u gang nad ydynt wedi eu cyflawni’n uniongyrchol eu hunain (deddf cydfentergarwch).
  • Bod yn destun bygythiadau, blacmel, trais a chamdriniaeth emosiynol. Yn cynnwys bygythiadau tuag at y teulu a ffrindiau (yn cynnwys bygythiad y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hysbysu felly byddant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teulu, sy’n ychwanegu ofn tuag at y gwasanaethau cymdeithasol).
  • Camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill.
  • Camfanteisio arnynt i wneud mwy o droseddau.
  • Methu â gadael neu dorri cysylltiad â’r person neu’r gang.
  • Perygl o niwed corfforol (yn cynnwys trais neu gam-drin rhywiol) neu gael eu lladd.
  • Effaith hirdymor ar ddewisiadau cyflogaeth gan nad yw rhai swyddi’n hygyrch i berson sydd â chofnod troseddol.

Efallai na fydd plentyn sydd wedi cyflawni trosedd o ganlyniad i gamfanteisio troseddol yn cael ei ystyried yn ddioddefwr, ond yn hytrach fel cyflawnwr gweithgaredd troseddol.

Mae Cymdeithas y Plant wedi cynhyrchu Canllaw Iaith Priodol mewn perthynas â Chamfanteisio ar Blant ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Meithrin Perthynas Amhriodol

Meithrin perthynas amhriodol yw pan fydd rhywun (yn aml oedolyn neu berson ifanc hŷn) yn meithrin perthynas, ymddiriedaeth a chysylltiad emosiynol gyda phlentyn neu berson ifanc fel y gallant ddylanwadu a chamfanteisio arnynt a’u cam-drin. Mae unrhyw blentyn mewn perygl o gael rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â nhw.

Gall unrhyw un fynd ati i feithrin perthynas amhriodol, person o unrhyw oedran, rhyw neu genedl. Gall hyn ddigwydd dros gyfnod hir neu fyr. Gall y rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol ffurfio perthynas gyda’r teulu er mwyn gwneud iddynt ymddangos yn ddibynadwy ac awdurdodol.

Gall plentyn neu berson ifanc gael ei recriwtio i gang sy’n dymuno camfanteisio’n droseddol arnynt oherwydd lle maent yn byw, pwy yw eu teulu, neu oherwydd eu bod yn dod i gysylltiad ag aelod hŷn o’r gang. Efallai y byddant yn ymuno am nad ydynt yn credu bod ganddynt ddewis arall, am eu bod yn teimlo bod angen iddynt gael eu hamddiffyn neu oherwydd y ‘rhoddion’ maent yn eu derbyn. 

Mae dulliau o feithrin perthynas amhriodol wedi mynd fwyfwy ar-lein, yn enwedig yn ystod cyfyngiadau Covid-19. Pan fydd hyn yn digwydd i blentyn ar-lein, mae’r rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol â nhw yn aml yn cuddio pwy ydynt drwy anfon lluniau neu fideos o bobl eraill. Gallent fod yn gwneud hyn i nifer o blant a phobl ifanc ar unwaith. Gall y berthynas fod ar sawl ffurf, gall fod yn rhamantus, yn awdurdodol, fel mentor neu’n ffigwr di-baid. Maent yn aml yn defnyddio’r un gwefannau, gemau ac apiau â phlant ac yn treulio amser yn dysgu am ddiddordebau’r plentyn ac yn defnyddio hynny i ffurfio perthynas – gan ddefnyddio sgyrsiau mewn gemau, y cyfryngau cymdeithasol, e-bost, negeseua a sgyrsiau llais a fideo. 

Er y gall unrhyw blentyn gael ei drin fel hyn, mae’r risg yn uwch i rai, sef plant mewn gofal; plant ag anableddau (neu sy’n gofalu am rywun ag anableddau); neu blant sy’n cael eu hesgeuluso. Bydd pobl sy’n mynd ati i feithrin perthynas amhriodol â phlant yn cymryd mantais ar unrhyw wendid sydd ganddynt.

Mae NSPCC wedi nodi rhai tactegau a ddefnyddir gan y bobl hyn:

  • Cymryd arnynt i fod yn iau
  • Prynu anrhegion
  • Mynd â nhw ar dripiau, gwyliau neu i ymweld â llefydd
  • Rhoi cyngor neu ddangos eu bod yn deall
  • Rhoi sylw
  • Bygwth diogelwch y plentyn neu ddiogelwch eu teulu a’u ffrindiau
  • Ynysu’r plentyn oddi wrth ei deulu a’i ffrindiau, gwneud i’r plentyn ddibynnu mwy arnynt a rhoi mwy o bŵer a rheolaeth iddynt
  • Defnyddio blacmel/cyfrinachau i reoli, dychryn a chodi ofn ar y plentyn.

Mae’n annhebygol y bydd y plentyn yn deall bod rhywun wedi meithrin perthynas amhriodol â nhw. Yn aml mae ganddynt deimladau cymhleth, megis teyrngarwch, edmygedd, cariad yn ogystal ag ofn, gofid a dryswch. 

Gall meithrin perthynas amhriodol â phlentyn gael effaith ar y plentyn yn y tymor hir a’r tymor byr, er enghraifft: trafferthion gyda gorbryder; problemau parhaus i allu ymddiried mewn perthnasoedd yn y dyfodol; straen ôl-drawmatig; hunan-niweidio; anhwylderau bwyta; meddyliau am hunanladdiad; problemau alcohol a chyffuriau; a theimlo cywilydd ac euogrwydd sy’n arwain at ddicter neu fynd i’w cragen. Gellir canfod rhagor o wybodaeth yma.

Llinellau Sirol

Llinellau Sirol yw’r enw a roddir ar fodel busnes sy’n camfanteisio ar bobl ifanc ac oedolion ifanc (18-25 oed) i symud cyffuriau gan ddefnyddio llinellau ffonau symudol pwrpasol neu “linellau delio”. Mae gangiau wedi camfanteisio ar blant mor ifanc â 6 oed i gario cyffuriau ar eu cyfer. Gall hyn gynnwys symud plant i ardal ymhell o’u cartrefi, i aros mewn llety, a gwerthu a chynhyrchu cyffuriau. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer camfanteisio’n rhywiol ar blant lle bydd cyffuriau’n debygol o gael eu defnyddio. Os bydd plentyn wedi cael ei fasnachu at ddibenion camfanteisio troseddol, yna maent yn cael eu cam-drin (gweler Diogelu).

Dyma rai arwyddion eu bod efallai’n cymryd rhan:

  • Bod yn gyfrinachol am sut maent yn treulio eu hamser
  • Bod â chariad hŷn
  • Bod ag arian neu bethau newydd fel dillad a ffonau symudol
  • Yfed alcohol dan oed neu gymryd cyffuriau
  • Bod yn ofidus, encilio neu wedi cynhyrfu
  • Ymddygiad rhywioledig, neu ddealltwriaeth am ryw nad yw’n addas i’w hoedran
  • Treulio mwy o amser oddi cartref neu’n absennol am gyfnodau
  • Anafiadau heb esboniad ac yn gwrthod gofyn am gymorth meddygol
  • Cyflawni troseddau megis dwyn o siopau neu fandaleiddio
  • Cario arfau.

Drwy symud tuag at fodel busnes troseddol, gellid dadlau nad ‘gang’ yw’r term cywir bellach i gyfeirio at y math hwn o ymddygiad troseddol. Mae’n bwysig felly nad yw ymarferwyr yn diystyru cysylltiad â llinellau sirol os nad oes cysylltiad yn ymwneud â gangiau ac, yn lle hynny, dylid canolbwyntio ar arwyddion, signalau ac ymddygiad y rhai maent yn gweithio â nhw.

  • Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn amlinellu troseddau caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur gorfodol dan orfod yn adran 1, a masnachu mewn pobl yn adran 2. Mae Adran 45 yn datgan yr amgylchiadau lle nad yw person yn euog o drosedd, sy’n cynnwys “mae’r person yn gwneud y weithred honno o ganlyniad uniongyrchol i fod, neu wedi bod, yn ddioddefwr caethwasiaeth neu’n ddioddefwr camfanteisio perthnasol…”. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith deddfwriaethol sy’n ei gwneud yn bosibl i ddwyn achos effeithiol yn erbyn cyflawnwyr caethwasiaeth fodern (gan gynnwys camfanteisio troseddol) a’u canfod yn euog o’r drosedd.
  • Mae Deddf Troseddau Difrifol 2015 yn cynnwys y drosedd gyfreithiol o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol a’r Gorchmynion Atal Troseddu Difrifol ataliol, yn ogystal â chryfhau ar seibrdroseddu, gwaharddebau gangiau a mesurau eraill i amharu ar droseddau a rhoi diwedd arnynt. Mae’r Ddeddf hefyd yn diwygio’r diffiniad statudol o’r hyn a ystyrir yn gang – mae’n cynnwys tri pherson o leiaf a gall pobl eraill ei adnabod fel grŵp.
  • Mae Deddf Cyllid Troseddol 2017 yn rhoi pwerau i fynd i’r afael â gwyngalchu arian, llygredd ac adennill yr hyn a enillwyd o droseddau.
  • Mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn ymwneud ag amryw o droseddau yn cynnwys bod ym meddiant, cyflenwi a chynhyrchu.
  • Gall Deddf Atal Troseddu 1953 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1998 fod yn addas ar gyfer Llinellau Sirol a gangiau eraill gan eu bod yn cynnwys troseddau’n ymwneud ag arfau ymosodol. 
  • Mae Deddf Arfau Tanio 1968 yn cynnwys y drosedd yn ymwneud ag arfau tanio, drylliau ac arfau eraill, eu cydrannau a bwledi a chetris.
  • Mae Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861 yn ymwneud â throseddau megis ymosodiad cyffredin ac ymgais i lofruddio. 
  • Mae Deddf Plismona a Throsedd 2009 yn darparu ar gyfer gwaharddebau i atal trais yn ymwneud â gangiau a gweithgaredd delio cyffuriau yn erbyn unigolyn.
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 Mae gan gyrff statudol gyfrifoldeb statudol i wneud popeth rhesymol o fewn eu gallu i atal trosedd ac anrhefn yn eu hardal a rhannu gwybodaeth i ddiogelu cymunedau rhag troseddau difrifol a throseddau cyfundrefnol.
  • Mae Deddf Plant 1989 a 2004 yn amlinellu’r gofyniad Statudol i weithio gyda phlant a theuluoedd er mwyn sicrhau agwedd gydweithredol tuag at ddiogelu. 
  • Mae Rheoliadau Masnachu mewn Pobl at ddibenion Camfanteisio 2013 yn amddiffyn pobl sy’n cael eu masnachu rhag camfanteisio troseddol ac yn gosod mesurau i amddiffyn dioddefwyr.
  • Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn darparu amryw o fesurau a allai fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gangiau a Gorchmynion Ymddygiad Troseddol.
  • Cyflwynodd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 reoliadau Gorchmynion Cyfyngu ar Delegyfathrebu’n ymwneud â Delio Cyffuriau, sy’n gorfodi cwmnïau rhwydweithiau ffonau symudol i gau llinellau ffonau symudol a/neu ddarnau llaw a ddefnyddir i ddelio cyffuriau.
  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn amlinellu’r ddyletswydd statudol i ddiogelu plant sydd mewn perygl. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am hyn.

Gofal Cymdeithasol Cymru : Ymwybyddiaeth am Ddiogelu 

Fearless.org: Hyfforddiant ar-lein ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc 

Canolfan Genedlaethol Cydlynu Llinellau Sirol: Fideos gwybodaeth (YouTube) 

Cymdeithas y Plant: Camau Camfanteisio Troseddol ar Blant (YouTube)

Heddlu Gorllewin Swydd Efrog: A ydych chi’n adnabod arwyddion o gamfanteisio troseddol ar blant? (YouTube) https://www.youtube.com/watch?v=MUoJDPO_sC0 

Cyngor Dosbarth Horsham: Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun – Camfanteisio Troseddol ar Blant a Chyflwyno Cyffuriau’n Anghyfreithlon drwy’r Llinellau Sirol (YouTube)

Dolenni Defnyddiol

Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: Llinellau Sirol 

Ewch i’r Wefan

Swyddfa Gartref: Camfanteisio Troseddol ar blant ac oedolion diamddiffyn – Canllawiau am y Llinellau Sirol (Medi 2018) 

Gweld y Canllawiau

Swyddfa Gartref: Pecyn tarfu ar ddulliau camfanteisio ar blant  

Gweld y Pecyn

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Camfanteisio yn y Llinellau Sirol – canllawiau arfer da ar gyfer Timau Troseddau Ieuenctid ac ymarferwyr ar y rheng flaen 

Gweld y Canllawiau

Gweithdrefnau Diogelu Cymru: Diogelu plant rhag Camfanteisio Troseddol ar Blant  

Gweld y Gweithdrefnau

Llywodraeth Cymru: Cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel – Canllawiau diogelu ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed) 

Gweld y Canllawiau

NSPCC: Camfanteisio troseddol a gangiau 

Ewch i’r Wefan

Cymdeithas y Plant: Camfanteisio troseddol ar blant a llinellau sirol  

Ewch i’r Wefan

Catch 22: Beth rydym yn ei wneud

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Ffoniwch 999 os bydd plentyn mewn perygl ar unwaith, neu ffoniwch 101 os ydych yn credu bod trosedd wedi ei chyflawni. Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy eu ffonio ar 0800 555 111 neu ar-lein

Gellir adrodd am achosion o feithrin perthynas amhriodol wrth yr adran Camfanteisio ar Blant a Diogelwch Ar-lein.

Mae gwasanaethau Diogelu Plant ar gael ym mhob Awdurdod Lleol ar draws Cymru (gweler Diogelu).

Gall Childline siarad gyda phlant am bobl a allai feithrin perthynas amhriodol â nhw, boed e’n digwydd nawr neu wedi digwydd yn y gorffennol. Gellir cysylltu â nhw 24/7 ar 0800 1111 – mae’n rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, neu gellir cysylltu â nhw ar-lein.

Mae Cymdeithas y Plant yn gweithio gyda phlant y mae pobl wedi camfanteisio arnynt fel eu bod yn cael eu trin fel dioddefwyr ac nid fel troseddwyr. Maent yn gweithio i ailadeiladu eu hymddiriedaeth ac i geisio sicrhau nad ydynt yn agored i gael eu targedu eto.

Mae’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) yn fframwaith sengl sy’n canolbwyntio ar ddull amlasiantaethol i adnabod dioddefwyr a’u cyfeirio at y gefnogaeth briodol. Gall yr Heddlu, Yr Awdurdodau Mewnfudo, Awdurdodau Lleol a rhai sefydliadau anllywodraethol gyfeirio dioddefwyr dan amheuaeth at yr Awdurdod Cymwys Sengl i wneud penderfyniad. Mae’r Awdurdod Cymwys Sengl yn rhan o’r Swyddfa Gartref. Mae angen caniatâd er mwyn atgyfeirio oedolion at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ond nid oes angen caniatâd ar gyfer rhai o dan 18 oed.

Mae St Giles Trust yn cynnig gwasanaethau arbenigol i helpu pobl ifanc i roi’r gorau i ymwneud â llinellau sirol mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy. Mae gweithwyr achos yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’r person ifanc a’i deulu er mwyn helpu i ymdrin ag unrhyw broblem sy’n achosi iddynt ymwneud â’r llinellau sirol. 

Mae Catch 22 yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o unrhyw oedran er mwyn eu helpu i ddianc rhag sefyllfaoedd maent yn poeni amdanynt, yn cynnwys camfanteisio troseddol ar blant, a llinellau sirol yn benodol. Gallwch ganfod cefnogaeth a darllen mwy am eu gwasanaethau ar-lein. 

Mae mynd i’r afael â’r llinellau sirol – a’r gangiau cyflenwi sy’n gyfrifol am lefelau uchel o drais, camfanteisio a cham-drin plant ac oedolion agored i niwed – yn flaenoriaeth ar gyfer awdurdodau gorfodi’r gyfraith yn y DU. Er mwyn ehangu ar yr ymateb i orfodi’r gyfraith, sefydlwyd canolfan cydlynu llinellau sirol amlasiantaethol, gan ddod â swyddogion ynghyd o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), yr heddlu ac unedau rhanbarthol troseddau cyfundrefnol i ddatblygu’r darlun cudd-wybodaeth cenedlaethol, blaenoriaethu camau gweithredu yn erbyn y troseddwyr mwyaf difrifol, ac ymgysylltu â phartneriaid ar draws y llywodraeth, yn cynnwys meysydd iechyd, lles ac addysg, er mwyn mynd i’r afael â’r materion ehangach. Yn ogystal â helpu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a phartneriaid plismona i weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol a chyflwyno ymateb mwy cynhwysfawr i fygythiad llinellau sirol, mae’r ganolfan yn cynorthwyo i ddatblygu dull amlasiantaethol ar draws y system gyfan, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu hadnabod a’u diogelu, deall y ffactorau sy’n arwain at y galw am gyffuriau, ac adennill yr hyn a enillwyd yn sgil cyflawni troseddau.