Neidio i'r prif gynnwys

Cynaeafu Organau

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cynaeafu Organau?

Cynaeafu organau dan orfodaeth yw’r arfer anghyfreithlon o dynnu organau dioddefwr o’i gorff yn erbyn ei ewyllys. Maent yn cael eu tynnu dan orfodaeth. Dyma rai enghreifftiau:

  • Bydd dioddefwyr yn cael eu herwgipio ac organ yn cael ei thynnu o’u corff dan orfodaeth 
  • Bydd dioddefwyr yn cael eu twyllo i gredu bod angen llawdriniaeth arnynt a thra byddant dan anesthetig bydd organ yn cael ei thynnu o’u corff, heb iddynt wybod na rhoi caniatâd
  • Mae masnachwyr mewn pobl yn adnabyddus am gynnig taith ddiogel yn gyfnewid am organ
  • Mae nifer o ddioddefwyr cynaeafu organau dan orfodaeth eisoes wedi cael rhywun yn camfanteisio arnynt drwy ddulliau masnachu mewn pobl a ffurfiau eraill ar gaethwasiaeth
  • Caiff dioddefwyr eraill eu llofruddio ar orchymyn a chaiff eu horganau eu tynnu o’u corff i fodloni gorchymyn.

Mae niferoedd yr achosion o gynaeafu organau yn cynyddu dros y byd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhagfynegi bod mwy nag un trosglwyddiad organ anghyfreithlon yn cael ei wneud dros y byd bob awr.

Mae tynnu organau’n llawfeddygol yn golygu bod angen llawdriniaeth fawr, sy’n golygu risgiau sylweddol. Mae tynnu rhai organau (e.e. arennau) gan roddwyr byw yn arwain at berygl sylweddol i’w bywyd ac ansawdd eu bywyd yn y dyfodol. Yn ogystal â pheryglon llawdriniaeth fawr, mae statws cynaeafu organau yn golygu y gall y protocol a’r safonau hylendid fod yn amheus, sy’n cynyddu’r perygl o gael haint a pheryglu bywyd y dioddefwyr.

Mae trawsblaniad organau’n dod yn fwyfwy cyffredin. Maent yn cael eu gwneud gan y GIG yng Nghymru. Mae’r trawsblaniadau hyn yn cael eu diogelu i leihau’r risg o gynaeafu organau. Mae Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn cynnig system optio allan ar gyfer rhoi organau a chydsyniad tybiedig. Mae’n caniatáu i ysbytai dybio bod pobl 18 oed a hŷn, sydd wedi byw yng Nghymru am 12 mis neu ragor, eisiau rhoi eu horganau ar adeg eu marwolaeth onibai eu bod wedi gwrthwynebu hynny’n benodol. I gael rhagor o wybodaeth am y mesurau diogelu a’r meini prawf llym sy’n cael eu defnyddio i ategu unrhyw benderfyniadau a wneir ynghylch trawsblaniadau, ewch i Rhoi Organau.

  • Cyflwynwyd Deddf Meinweoedd Dynol 2004 i sicrhau bod rhoddwyr byw wedi dod i benderfyniad gwirfoddol ar sail gwybodaeth i roi eu horganau heb unrhyw orfodaeth, pwysau na gwobr. 
  • Gwnaeth y DU gadarnhau Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl. 
  • Confensiwn Cyngor Ewrop yn erbyn Masnachu mewn Organau Dynol sy’n ei gwneud yn drosedd i fasnachu mewn organau dynol a chymryd mesurau i ddiogelu dioddefwyr. Mae’n ddogfen ryngwladol sydd wedi’i rhwymo mewn cyfraith i fynd i’r afael â’r mater o safbwynt cyfraith trosedd. Llofnododd y DU y confensiwn ym mis Mawrth 2015. 
  • Daw Deddf Caethwasiaeth Fodern (2015) â deddfwriaeth flaenorol ynghyd ac mae’n cynnwys y ffaith fod cynaeafu organau’n drosedd.
  • Llofnodwyd Datganiad Istanbul yn 2008 ac mae’n amlinellu’r foeseg ynghylch trawsblaniadau gyda’r nod o fynd i’r afael â thwristiaeth, masnachu a masnacheiddio trawsblaniadau ar raddfa ryngwladol.
  • Mae Deddf Meddyginiaeth a Dyfeisiau Meddygol 2021 yn atal cydgynllwynio mewn achosion o gynaeafu organau dan orfodaeth o fewn diwydiant meddyginiaeth y DU ac mae angen cydsyniad priodol ar gyfer meinweoedd dynol sy’n cael eu mewnforio i’w defnyddio mewn meddyginiaeth.