Neidio i'r prif gynnwys

Arfau Tanio Anghyfreithlon / Trosedd Gynnau

Archwilio is-bynciau

Beth yw Arfau Tanio Anghyfreithlon / Trosedd Gynnau?

Mae lefel y drosedd gynnau yn y DU yn un o’r isaf yn y byd. Fodd bynnag, mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gweithio’n frwd i atal arfau tanio anghyfreithlon rhag dod i mewn i’r wlad ac mae’n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth arfau tanio y DU. Prif neges yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yw i ‘wybod beth yw’r gyfraith: Mae’n anghyfreithlon i fod â’r rhan fwyaf o arfau tanio yn eich meddiant heb drwydded yn y DU’. Darllenwch fwy yma Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Gallwch ddod i wybod sut y daw arfau tanio i’r farchnad droseddol drwy ddilyn y Ffeithlun.

Fe siaradodd Syr Peter Fahy, cyn brif gwnstabl Heddlu Manceinion ar ddeddfwriaeth arfau tanio yn dilyn saethu Plymouth (Manchester News).

“Rwy’n credu y byddai’n rhaid i chi sefyll yn ôl a dweud fod hon yn drasiedi ofnadwy sy’n cael effaith enfawr yn amlwg ar y teuluoedd ac ar y gymuned, ond yn gyffredinol mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o brin. Roedd yr un diwethaf tua 10 mlynedd yn ôl pan maent yn cael cannoedd bob blwyddyn yn yr Unol Daleithiau, felly mae ein cyfraith drwyddedu ar arfau tanio ymysg y llymaf yn y byd.”

Mae pethau fel gynnau llaw, drylliau, wedi eu gwahardd yn llwyr yn dilyn trasiedi Dunblane ac, ar y cyfan, byddai’n rhaid i chi ddweud ei bod yn ymddangos fod y system yn gweithio ac mae’r mathau hyn o drasiedïau yn hynod o brin. Dim ond tua 30 achos o lofruddiaeth y flwyddyn sy’n cynnwys arfau tanio er enghraifft ac maent yn rhai a gaiff eu cadw’n anghyfreithlon yn bennaf ac ni fyddech fyth yn cael tystysgrif ar eu cyfer.”

Drylliau tanio anghyfreithlon: Gwybod y gwn, gwybod y gyfraith, gwybod y canlyniadau

  • NPCC 

Cadw’n ddiogel: Ymosodiad Arfau Tanio ac Arfau – camau allweddol i gadw’n ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth yma Cadw’n Ddiogel (npcc.police.uk) a ffilm fer addysgol ‘Run, Hide, Tell: Firearms and Weapons Attack’ – YouTube

Dolenni defnyddiol

Mae’r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Balisteg Cenedlaethol yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith i leihau troseddau’n ymwneud â gynnau tanio.

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth y DU – Canllawiau ar Drwyddedu Gynnau Tanio

Ceir rhagor o wybodaeth yn y Daflen ddiogelwch gynnau tanio gan Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain  .

Gweld y Taflen

Ewch i’r Wefan

Mae Llawlyfr diogelwch arfau tanio y Swyddfa Gartref yn darparu canllawiau ar storio a chludo arfau tanio.

Darllenwch yr llawlyfr

Saethu Plymouth: Pwy all feddu arfau tanio neu ddryll yn y DU – Newyddion y BBC

Darllenwch yr Erthygl


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth ynglŷn ag arfau tanio anghyfreithlon neu unrhyw bryderon am bobl â mynediad i arfau tanio, yna rhowch wybod i’r heddlu am hyn neu cysylltwch yn ddienw â Crimestoppers.