Neidio i'r prif gynnwys

Gwyngalchu Arian a Throseddau Economaidd Eraill

Archwilio is-bynciau

Beth yw Gwyngalchu Arian a Throseddau Economaidd eraill?

Mae gwyngalchu arian yn galluogi ac yn sail i’r rhan fwyaf o ffurfiau o droseddau trefnedig ac yn caniatáu i grwpiau troseddol weithredu ymhellach a chuddio eu hasedau. Er nad yw’r union ffigyrau ar gael, mae yna bosibilrwydd realistig fod graddfa gwyngalchu arian sy’n effeithio ar y DU yn flynyddol yn gannoedd biliwn o bunnoedd.” Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Gwyngalchu arian yw cyfnewid arian neu asedau a gafwyd yn droseddol, am arian neu asedau eraill sy’n ‘lân’.

Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau gwyngalchu arian ar y pen uchaf yn cael eu hyrwyddo drwy gam-drin prosesau a gwasanaethau cyfreithlon. Fe all gweithwyr proffesiynol fel cyfrifwyr, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol ac asiantwyr tai ddioddef camfanteisio troseddol neu fe allant fod yn ymwneud ag eraill mewn gweithgarwch anghyfreithlon, gallant fod yn esgeulus neu hyd yn oed gymryd rhan yn ddiarwybod. Gwyliwch y fideo hwn sy’n egluro sut y gall gweithwyr proffesiynol yr ymddiriedir ynddynt helpu i orfodi’r gyfraith drwy ddiwydrwydd dyladwy a chyflwyno Adroddiad Gweithgarwch Amheus.

Drwy adnabod ac arestio unigolion sy’n gwyngalchu arian, fe all asiantaethau gorfodi’r gyfraith darfu ar weithgarwch troseddol pellach a gwneud y DU yn amgylchedd anodd i’r rhai sy’n awyddus i wyngalchu cyllid troseddol.

Gwyngalchu arian: Peidiwch â chael eich dal allan

  • Y Swyddfa Gartref

Gweminarau wedi eu recordio i ddarganfod mwy am oruchwyliaeth gwyngalchu arian

  • Mae cyrsiau hyfforddi gwrth wyngalchu arian ar gael drwy ddarparwyr preifat

Dolenni defnyddiol

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Troseddu Economaidd (NECC) wedi ei chreu i gyflawni newid yn ymateb y DU i droseddu economaidd a’i effaith ar droseddu o’r math hwn.

Ewch i’r Wefan

Mae gan Uned Cudd-Wybodaeth Ariannol y DU (UKFIU) gyfrifoldeb cenedlaethol dros dderbyn, dadansoddi a dosbarthu cudd-wybodaeth ariannol a gaiff ei gasglu o Adroddiadau yn ymwneud â Gweithgarwch Amheus.

Mwy o wybodaeth am y defnydd o Adroddiadau Gweithgarwch Amheus a sut i’w cyflwyno.

Cyflwyno Adroddiad

Tŷ’r Cyffredin – Gorchmynion Cyfoeth Heb Eglurhad.

Ewch i’r Wefan

Canllawiau Llywodraeth y DU – Pwy sydd angen cofrestru ar gyfer goruchwyliaeth gwyngalchu arian.

Darllenwch y Canllawiau


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os oes gennych wybodaeth ynglŷn â gwyngalchu arian, yna rhowch wybod i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu rhowch wybod am hyn ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru.

Os ydych yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch ag elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.