Neidio i'r prif gynnwys

Lladdiad

Archwilio is-bynciau

Beth yw Lladdiad?

Mae lladdiad, sy’n cynnwys llofruddiaeth a dynladdiad, yn flaenoriaeth o dan Strategaeth Trais Difrifol Llywodraeth y DU, sy’n adrodd cynnydd mewn marwolaethau o ganlyniad i drais dyn yn erbyn dyn. Awgrymir fod y marchnadoedd cyffuriau yn gyfrifol am yrru’r cynnydd diweddar mewn trais difrifol gydag achosion cysylltiedig â chyffuriau yn cyfrif am tua hanner y cynnydd mewn lladdiadau ers 2014. Mae’r duedd hon wedi parhau ers i’r strategaeth gael ei chyhoeddi yn 2018, gyda Chynllun Trechu Trosedd 2021 yn adrodd fod 48% o’r lladdiadau yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 yn gysylltiedig â chyffuriau.

Mae’r Mynegai Lladdiadau yn dangos fod y gyfradd lladdiadau ar gyfartaledd i’r boblogaeth yn y 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig saith gwaith yn fwy na’r gyfradd yn y 10% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae’r rhai sydd rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol na grwpiau hŷn i farw dan ddwylo un arall. Yn fwy na hynny mae ymchwil wedi dangos, i bob dioddefwr gwyn o laddiad, oedd rhwng 16 a 24 oed rhwng 2018 a 2019, roedd yna 24 dioddefwr du.

Mae’r mynegai hefyd yn dangos fod 73% o ddioddefwyr yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 yn wrywaidd, ond roedd 58% o ddioddefwyr lladdiadau oedolion benywaidd wedi eu lladd gan rywun yr oeddent yn ei adnabod, fel partner neu cyn bartner (gweler Trais Domestig).

Caiff adolygiadau o laddiadau eu gwneud pan fo plentyn neu oedolyn diamddiffyn yn marw, neu pan fo’r farwolaeth yn digwydd mewn lleoliad domestig (gweler yr Adolygiad Lladdiad Domestig). Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Adolygiadau Lladdiadau Arfau Ymosodol o dan Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth

Gweler ein hadran ar yr Adolygiad Lladdiad Domestig am ragor o wybodaeth ar hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth.

Dolenni defnyddiol

Canllawiau Erlyn y Goron – Lladdiad: Llofruddiaeth a Dynladdiad

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth y DU –


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu Gwasanaeth Lladdiadau pwrpasol i deuluoedd mewn galar ac yn cynnig arweiniad proffesiynol.