Neidio i'r prif gynnwys

Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth

Archwilio is-bynciau

Beth yw Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth?

Mae “Llwgrwobrwyo” yn ffurf hydreiddiol o lygredigaeth sy’n hyrwyddo troseddau difrifol, fel gwyngalchu asedau sydd wedi eu dwyn, ac mae’n cynnwys masnachu mewn pobl, cyffuriau ac arfau tanio ar draws ffiniau cenedlaethol.  Mae llwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus yn lleihau hyder y cyhoedd yn y farnwriaeth a’r llywodraeth ac mae’n tanseilio rheolaeth y gyfraith. Pan fo cwmnïau’r DU neu unigolion yn rhan o hyn fe all danseilio gallu’r DU i hyrwyddo twf cynaliadwy ac i fodloni ein rhwymedigaethau rhyngwladol.  Mae taliadau llygredig i sicrhau contractau yn gwyrdroi marchnadoedd ac yn peryglu cystadleuaeth deg, gan gyfrannu at galedi economaidd, anghydraddoldeb cymdeithasol a cholli swyddi.

”Gall llygredigaeth gan ffigyrau cyhoeddus tramor neu ‘unigolion sy’n amlwg yn wleidyddol’ arwain at ganlyniadau dinistriol i wledydd datblygol. Fe all graddfa’r llygredigaeth fod yn helaeth, gydag unigolion yn aml yn tynnu biliynau o bunnoedd o gronfeydd y wladwriaeth. Mewn nifer o wledydd datblygol gall llygredigaeth endemig fod yn ffactor allweddol mewn aflonyddwch sifil a newidiadau i gyfundrefnau.  Mae llygredigaeth yn cynyddu tlodi ac anghyfartaledd, yn tanseilio busnes da ac yn bygwth gonestrwydd marchnadoedd ariannol.” Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Dolenni defnyddiol

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol – Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Troseddu Economaidd

Ewch i’r Wefan

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol – Sut i roi gwybod am lwgrwobrwyo a llygredigaeth rhyngwladol.

Ewch i’r Wefan

Y Ganolfan Gwrth-Lygredigaeth Rhyngwladol (ICU) – yn ymchwilio i lwgrwobrwyo, llygredigaeth a throseddau yn ymwneud â gwyngalchu arian yn rhyngwladol. Diogelwch eich busnes rhag llwgrwobrwyo a llygredigaeth, gwybodaeth a chanllawiau.

Ewch i’r Wefan

Darllenwch yr Canllawiau 

Mae Canllawiau Deddf Llwgrwobrwyo’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn amlinellu chwe egwyddor ar gyfer atal llwgrwobrwyo.

Darllenwch y Canllawiau 

Y Swyddfa Twyll Difrifol – gwybodaeth i ddioddefwyr, tystion ac unigolion sy’n rhannu pryderon.

Ewch i’r Wefan

Gwybodaeth a chanllawiau Llywodraeth y DU ar wrth lygredigaeth.

Gweld y Canllawiau 

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi wedi bod yn dyst neu wedi bod yn ddioddefwr trosedd, adroddwch hyn i’r Heddlu. Ffoniwch 101, neu gallwch adrodd ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych wedi cofrestru gyda gwasanaeth argyfwng SMS.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad at gymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys eu llinell gymorth cenedlaethol 24/7 am ddim 08 08 16 89 111, neu gallwch dderbyn cymorth ar-lein.