Neidio i'r prif gynnwys

Dioddefwyr a Thystion

Archwilio is-bynciau

Beth yw Dioddefwr?

Mae’r term ‘dioddefwr’ yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o asiantaethau wrth gyfeirio at rywun sydd wedi profi erledigaeth. Mae hefyd wedi’i ddiffinio yn y Cod Dioddefwyr fel “unigolyn sydd wedi dioddef niwed, yn cynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd sydd wedi ei achosi yn uniongyrchol gan drosedd” neu “berthynas agos (neu siaradwr wedi’i enwebu ar ran y teulu) i berson lle’r oedd eu marwolaeth wedi cael ei achosi oherwydd trosedd”. Fodd bynnag, mae asiantaethau cymorth i ddioddefwyr a’r Comisiynydd Dioddefwyr yn cynnwys yr holl ddioddefwyr, waeth pa fath o drosedd a wnaethpwyd yn eu herbyn, os ydyn nhw’n riportio’r achos i’r heddlu ac os cafodd rhywun euogfarn. Yn arbennig mae rhai dioddefwyr a nifer o asiantaethau anstatudol yn dewis defnyddio’r gair ‘goroeswr’.

Mae’r ffordd y mae dioddefwyr yn cael eu trin fel gwylwyr ar draws y system cyfiawnder troseddol yn effeithio nid yn unig eu profiad o’r system ond eu canfyddiad ohono hefyd. Mae’r amser wedi dod i newid y syniad o statws dioddefwyr fel eu bod nhw’n cael eu gweld fel cyfranogwyr gweithredol o’r pwynt y mae’r drosedd yn cael ei chyflawni ar hyd y broses cyfiawnder troseddol a thu hwnt.” Adroddiad Blynyddol o Gomisiynydd Dioddefwyr 2020 i 2021 – Comisiynydd Dioddefwyr

Mae’r Cod Dioddefwyr yn nodi’r lefel o ran isafswm gwasanaeth y dylai dioddefwyr ei ddisgwyl gan asiantaethau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu a’r llysoedd, os ydyn nhw’n dewis riportio’r trosedd neu beidio. Mae’r fersiwn diweddaraf o’r Cod wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2021 ac wedi’i strwythuro fel ei fod yn canolbwyntio ar 12 o hawliau trosfwaol.

Beth yw Tyst?

Mae unigolyn sydd wedi dioddef niwed yn cynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd, o ganlyniad uniongyrchol i dystio trosedd, yn cael ei ystyried fel dioddefwr o drosedd o fewn y Cod Dioddefwyr ac yn gallu cael mynediad i wasanaethau sy’n cefnogi dioddefwyr. Dydyn nhw ddim angen fod wedi rhoi datganiad neu gael eu cyfweld gan yr heddlu neu fod angen iddyn nhw fynychu’r llys fel tyst. Gall tystion eraill gael mynediad i wasanaethau wedi eu darparu o dan y Siarter Tystion sy’n gosod safonau o ofal i dystion yn y system cyfiawnder troseddol, yn cynnwys sut y dylai person gael ei drin gan yr heddlu os ydyn nhw’n dyst i drosedd neu ddigwyddiad, ac os y gofynnir iddyn nhw roi tystiolaeth mewn llys troseddol. Mae’n darparu mwy o wybodaeth fel y rôl o gyfryngwr cofrestredig, y daith o fod yn dyst a mesurau arbennig i dystion diamddiffyn a thystion sy’n cael eu bygwth.

Y Comisiynydd Tystion

Mae dioddefwyr a thystion o drosedd gyda hawliau penodol. Mae’r Cod Dioddefwyr a’r Siarter Tystion yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud ac erbyn pryd, ond yn aml maen nhw’n cadw’n dawel ar y ffordd y dylid mynd i’r afael ar bethau. Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr wedi ymrwymo i hyrwyddo diddordebau dioddefwyr a thystion. Mae’r Comisiynydd Dioddefwyr yn cael ei benodi gan weinidogion ond yn annibynnol o’r llywodraeth ac yn rhydd i gynghori, herio a chynnig ei safbwyntiau.

Hefyd mae’n werth nodi nad oes gan ddioddefwyr o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr un hawliau a dioddefwyr o drosedd sy’n rhywbeth y mae’r Comisiynwyr Dioddefwyr blaenorol a phresennol wedi gofyn i gael ei newid o fewn y Cod (gweler Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: Byw Hunllef – Y Comisiynydd Dioddefwyr).

Cefnogaeth i ddioddefwyr a thystion o drosedd: Jemma, Cymorth i Ddioddefwyr - YouTube

Mae Comisiynydd Dioddefwyr a’r Coleg Plismona wedi datblygu fideo ar y ffordd orau y gall swyddogion yr heddlu helpu dioddefwyr, Rhoi dioddefwyr wrth wraidd plismona.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu hyfforddiant – darganfod mwy yma.

Dolenni defnyddiol

Cwyno am y gwasanaeth y mae dioddefwr wedi’i dderbyn – Comisiynydd Dioddefwyr.

Gwneud Cwyn

Canllaw ac adnoddau Llywodraeth y DU i helpu asiantaethau ac ymarferwyr i weithio gyda dioddefwyr a thystion – Dioddefwyr a Thystion.

Gweld yr Adnoddau

Cyfraith a llysoedd – Cyngor ar Bopeth.

Gweld y Cyngor

Y Siarter Tystion: safonau ar gyfer gofal i dystion yn y system cyfiawnder troseddol.

Darllenwch y Siarter

Y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr o Drosedd yng Nghymru a Lloegr a chefnogi deunyddiau gwybodaeth gyhoeddus.

Darllenwch y Cod Ymarfer 

Cod Dioddefwyr – Cymorth i Ddioddefwyr.

Darllenwch y Cod


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr o drosedd dylech ei riportio i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges testun at 999 os ydych wedi cofrestru o flaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS mewn argyfwng.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno bod yn anhysbys, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad i gefnogaeth gan Gymorth i Ddioddefwyr, yn cynnwys trwy eu llinell gymorth 24/7 cenedlaethol am ddim ar 08 08 16 89 111, neu gael cymorth ar-lein.

Mae Unedau Gofal Tystion yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion mewn achosion sy’n symud trwy’r system cyfiawnder troseddol. Bydd cefnogaeth a gwybodaeth yn cael ei deilwra i anghenion y tyst unigol. Mae gwybodaeth a chyngor ar gael trwy Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth (neu drwy’r Gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr isod).

Mae Gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr ar draws Cymru yn cynnwys:

Gallwch hefyd weld arweiniad a chyngor i ddioddefwyr a thystion o drosedd trwy’r Comisiynydd Dioddefwyr.

Am fwy o gefnogaeth a chymorth arbenigol ewch i’r adran Pynciau ar ein gwefan.