Neidio i'r prif gynnwys

Cam-Drin Domestig

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cam-Drin Domestig?

Cam-drin domestig yw arfer rheolaeth gan un unigolyn dros unigolyn arall mewn perthynas agos neu berthynas deuluol agos; gall y camdriniaeth fod yn rhywiol, corfforol, ariannol, emosiynol neu seicolegol. Gall y camdriniaeth ddigwydd yn y cartref neu rhywle arall. (Cymorth i Ferched Cymru)

Fel arfer, mae’n batrwm o ymddygiad, ac mae’n digwydd waeth beth yw rhyw, oedran, cyfrifoldeb gofalwr, dosbarth, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, statws mewnfudo, ethnigrwydd, daearyddiaeth neu grefydd unigolyn. 

Mae diffiniad Llywodraeth y DU o drais domestig a chamdriniaeth yn diffinio cam-drin domestig fel: “Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, ymddygiad sy’n dangos rheolaeth drwy orfodaeth neu ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng unigolion 16 oed neu hŷn sydd yn, neu sydd wedi bod yn, bartneriaid agos neu aelodau teulu, waeth beth yw eu rhywedd neu rhywioldeb”.

Mae nifer o fathau o gam-drin domestig, a chaiff rhai ohonynt eu trafod yn eu hadrannau eu hunain ar y wefan.

Mae camdriniaeth gorfforol yn amrywiaeth o weithredoedd gan gyflawnwr tuag at ddioddefwr gan ddefnyddio grym / trais neu wrthrychau i’w hanafu. Gall camdriniaeth gorfforol gynnwys slapio, pwnsio, cicio, llosgi, ysgwyd, crogi, taflu eitemau a defnyddio cyllyll neu arfau eraill.

Mae cam-drin ysbrydol yn cael ei ddeall yn gyffredin fel rhan o gam-drin emosiynol a seicolegol sy’n defnyddio crefydd a systemau ffydd i reoli a threchu dioddefwr.

Mae camdriniaeth ariannol yn amrywiaeth o weithredoedd a gyflawnir yn erbyn dioddefwr a gall gynnwys:

  • Sicrhau bod y dioddefwr yn brin o arian
  • Cymryd arian gan y dioddefwr
  • Atal y dioddefwr rhag cael neu gadw swydd
  • Gorfodi’r dioddefwr i weithio un neu fwy o swyddi, ond cymryd yr arian i gyd ganddynt
  • Dinistrio eiddo
  • Gwrthod i’r dioddefwr gael mynediad at gyfrif banc
  • Pentyrru dyledion yn enw’r dioddefwr.

Mae’r Ddeddf Cam-Drin Ddomestig 2021 yn cydnabod plant sy’n perthyn i’r dioddefwr neu’r cyflawnwr fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu hawl eu hunain, os ydynt yn gweld, clywed neu’n profi effeithiau cam-drin.

Swyddfa’r Comisiynydd Cam-Drin Domestig: Ei rôl yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am gam-drin domestig. Nid yw rhai o rolau’r Comisiynydd yn cynnwys Cymru gan eu bod yn ardaloedd wedi eu datganoli. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddant yn gweithio gyda’r Comisiynydd Cam-Drin Domestig ble bo’n briodol i fynd i’r afael â cham-drin domestig a gweithio i gefnogi goroeswyr.

Mae dau fath penodol iawn o gam-drin domestig a gaiff eu cwmpasu dan y pennawd hwn hefyd.

Trais a Chamdriniaeth gan Berson Ifanc yn y Glasoed tuag at Riant (APVA): Caiff ei adnabod fel cam-drin rhieni, camdriniaeth gan blant tuag at eu rhieni neu syndrom curo rhieni. Yn ogystal â byw yn ofni ymosodiad, efallai y bydd rhieni sy’n cael eu cam-drin gan eu plant yn teimlo cywilydd ac yn beio eu hunain, ac efallai y byddan nhw’n amharod i ddatgelu’r broblem.

Mae APVA yn debygol o gynnwys patrwm o ymddygiad, sy’n gallu cynnwys trais corfforol a mathau eraill o ymddygiad camdriniol tuag at riant (neu warcheidwad) gan gynnwys difrod i eiddo, cam-drin emosiynol a cham-drin ariannol. Mae gan rai teuluoedd sy’n dioddef APVA hanes o drais a cham-drin domestig. Mewn achosion eraill, gall y trais fod yn gysylltiedig â phroblemau ymddygiad eraill, cam-drin sylweddau, problemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu.

Mae’n bwysig cofio y gall y math hwn o gam-drin, er y cyfeirir ato’n gyffredin fel Cam-drin Treisgar Pobl Ifanc tuag at Rieni, hefyd gynnwys rhieni, y rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant, brodyr a chwiorydd, neu deuluoedd estynedig.

Cam-drin Pobl Hŷn: Cam-drin penodol ar bobl dros 65 oed. Gall y cam-drin fod fel a nodwyd eisoes ond mae’n bosibl y bydd y cymorth a’r cyngor yn wahanol. Efallai na fyddan nhw am ddatgelu’r gamdriniaeth chwaith, fel dioddefwyr APVA. Yn ôl Hourglass, mae 1 o bob 6 pherson hŷn yn dioddef camdriniaeth. Gall camdriniaeth ddigwydd gan aelodau’r teulu, ffrindiau a chymdogion. Mae’n bosibl y bydd wedi bod yn digwydd ers cyfnod hir, neu gall fod yn newid diweddar oherwydd problemau ymddygiad (fel gydag APVA) ond mae’n bosibl y byddant hefyd yn ceisio manteisio ar effaith corfforol ac emosiynol heneiddio a gallu symud o gwmpas llai, o bosibl (gweler Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio o ran Meddiannu Cartrefi Pobl Ddiamddiffyn i Werthu Cyffuriau). Mae dogfen Llywodraeth Cymru, Cam-drin domestig: diogelu pobl hŷn yn ganllaw i helpu gweithwyr proffesiynol i gefnogi pobl hŷn sy’n dioddef, neu sydd wedi dioddef, cam-drin domestig.

  • Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: ynghyd â dyletswyddau o ran strategaethau, mae’r Ddeddf yn rhoi mesurau ar waith i leihau trais ar sail rhywedd yng Nghymru a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a gosod mesurau ataliol fel bod modd i weithwyr proffesiynol adnabod arwyddion camdriniaeth a thrais.
  • Darparodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i ddarparwyr llety i oroeswyr VAWDASV yn ystod COVID-19.
  • Deddf Cam-Drin Domestig 2021: Ni fydd camdrinwyr yn cael mewn rhai amgylchiadau, croesholi dioddefwyr yn uniongyrchol mewn llysoedd teulu a sifil, yn ogystal â Mesurau Arbennig fel darparu sgriniau a gallu rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo i atal dychryn a lleddfu rhywfaint o’r straen sy’n gysylltiedig â’r broses. Mae’n egluro’r amgylchiadau ble mae llys yn gallu gwneud ‘gorchymyn eithrio’ o dan adran 91(14) o’r Ddeddf Plant 1989, i atal cynbartneriaid ymosodol rhag mynd â’r dioddefwr yn ôl i’r llys dro ar ôl tro, a all fod yn barhad o gamdriniaeth. Cyflwyno trosedd newydd o dagu nad yw’n angheuol, cosbadwy gyda hyd at bum mlynedd yn y carchar. Mae amddiffyn cydsyniad i niwed difrifol am foddhad rhywiol yn cael ei ddileu ar unwaith. Bygythiad i ddatgelu lluniau a ffilmiau rhyw gyda’r bwriad i achosi gofid nawr wedi’i ychwanegu i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015.  Mae’n atal meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill rhag codi tâl ar ddioddefwr cam-drin domestig am lythyr i gefnogi cais am gymorth cyfreithiol.
  • Cynllun datgelu Trais Domestig: canllawiau (2012) ‘Clare’s Law’: Mae Clare’s Law yn galluogi pobl i ofyn i’r heddlu gynnal gwiriadau am gofnod o droseddau camdriniol ar eu partner neu bartner aelod o’u teulu neu ffrind maen nhw’n credu allai fod mewn perygl. Mae’r Ddeddf Cam-Drin Ddomestig 2021 yn gosod Cynllun Datgelu Trais Domestig ‘Cyfraith Clare’ ar sail statudol.
  • Deddf Troseddu Difrifol 2015: Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn diffinio ac estyn cwmpas troseddau cam-drin domestig yn ogystal â diweddaru’r gyfraith o ran FGM.
  • Gwnaeth Deddf Cyfraith Teulu 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ran 1 o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004) gyflwyno dau fath o orchymyn. Gorchmynion Meddiannaeth, sy’n caniatáu i lys wahardd camdriniwr o’r cartref dros dro. Mae gorchmynion peidio ag ymyrryd yn orchymyn llys sy’n gwahardd camdriniwr rhag bod yn dreisgar, aflonyddu ar unigolyn arall neu ddangos ymddygiad bygythiol tuag atynt.
  • Mae Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 yn darparu datrysiadau sifil a throseddol i gam-drin domestig, gan gynnwys gorchmynion peidio ag aflonyddu a gorchmynion atal.
  • Mae Deddf Tai (Cymru) 2014, Adran 55, yn amlinellu pan fydd unigolyn yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae Adran 57 yn darparu’n benodol nad yw’n rhesymol i unigolyn feddiannu llety os yw’n debygol y bydd hyn yn arwain at fod yr unigolyn, neu aelod o aelwyd yr unigolyn, yn destun camdriniaeth. At ddibenion adran 57, mae “camdriniaeth” yn golygu trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu frawychus ac unrhyw fath arall o gamdriniaeth a all arwain at berygl o niwed, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae “cam-drin domestig” yn digwydd pan fo’r dioddefwr yn gysylltiedig â’r camdriniwr (adran 58). Mae adran 68 yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol ddarparu llety dros dro os ydynt yn credu y gallai ymgeisydd fod yn ddigartref, yn gymwys am gymorth a bod angen blaenoriaethol arnynt – mae hyn yn cynnwys llochesau.

Dim ond y dioddefwr all wneud cais am orchmynion peidio ag ymyrryd a gorchmynion meddiannaeth a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 a dim ond y llys fedr eu cyflwyno.

Cymorth i Ferched Cymru:

Gweminar

Cyrsiau

Llywodraeth Cymru: Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Llywodraeth Cymru: Cyfres o fideos sy’n amlinellu rôl arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus o ran VAWDASV

Mae IRIS (Nodi ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch) yn hyfforddi’n benodol ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru neu’r Bwrdd Iechyd Lleol i gael mynediad.

Future Learn: Cwrs Trais Domestig 

Gofal Cymdeithasol Cymru:  Adnabod ac ymateb i gamdriniaeth a thrais domestig: Canllaw cyflym i weithwyr cymdeithasol.

BBC News: The abuse started the day I met him

Podlediad NSPCC: helping children recover from domestic abuse

GIG Domestic violence. 2 ferch yn disgrifio eu profiad o gam-drin domestig.

Cymorth i Ferched Break the Silence: Responding to domestic abuse in your community Mae’n darparu trosolwg byr o beth yw cam-drin domestig, yr effaith gall ei chael ar gymunedau a’r effaith gall cymunedau ei chael wrth ei herio.

White Ribbon UK ffilm If Love Hurts

Podlediad Diogelwch Cymunedol Domestic Abuse with Sharon Bryan


Dolenni Defnyddiol

Llinell gymorth Byw Heb Ofn

Ewch i’r Wefan

Respect Men’s Advice Line sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm 0808 8010327

Ewch i’r Wefan

Llinell Gymorth Dyn Cymru (caiff ei redeg gan Cymru Ddiogelach) 0808 801 0321

dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm, mae modd cael mynediad tu allan i oriau swyddfa trwy linell gymorth Byw Heb Ofn.

Ewch i’r Wefan

Mae Stonewall Cymru yn darparu cyngor a chymorth i bobl LHDT+

Ewch i’r Wefan

Mae BAWSO yn darparu cymorth i ferched a phlant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Ewch i’r Wefan

Hourglass – cymorth pwrpasol i bobl hŷn.

Ewch i’r Wefan

Childline i blant a phobl ifanc.

Ewch i’r Wefan

Mae ap Bright Sky yn ap symudol rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a gwybodaeth.

Ewch i’r Wefan

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cyngor ymarferol a dolenni i adnoddau ychwanegol.

Ewch i’r Wefan

Civil Legal Advice i’r rhai sy’n gymwys.

Ewch i’r Wefan

Gall Cyngor ar Bopeth ddarparu gwybodaeth a chyngor.

Ewch i’r Wefan

Gofal Cymdeithasol Cymru Trais a cham-drin domestig – arweiniad i weithwyr proffesiynol

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi “Nid yw cam-drin domestig yn dderbyniol; nid yr unigolion sy’n dioddef trais a chamdriniaeth sydd ar fai ac nid nhw yw’r unig rhai sy’n dioddef.” Mae help ar gael trwy Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800, testun 07860077333 neu e-bost info@livefearfreehelpline.wales ac maent i gyd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Tai diogel a lloches: Gall gwasanaethau lleol ar gyfer cam-drin domestig yng Nghymru gefnogi dioddefwyr (a’u plant os oes rhai ganddynt) gydag amrywiaeth o ddulliau er mwyn diwallu anghenion o ran tai, materion cyfreithiol, mewnfudo, cefnogaeth trwy’r system gyfiawnder, cyllid (gan gynnwys dyled), iechyd a lles, cael mynediad at addysg a chyflogaeth a chael cefnogaeth cwnsela.

Mae lloches yn dŷ diogel lle gall pobl aros er mwyn rhoi diwedd ar gamdriniaeth, naill ai mewn argyfwng, neu i’w helpu i symud ymlaen ac adfer ar ôl camdriniaeth. Mae modd cael mynediad at loches trwy llinell gymorth Byw Heb Ofn neu trwy eich grŵp lleol. Bydd darparwr y lloches yn cynnal asesiad.

Cefnogaeth sy’n seiliedig yn y gymuned (cefnogaeth gymunedol neu gefnogaeth yn ôl yr angen): Cefnogaeth arbenigol ac eiriolaeth i oroeswyr sy’n byw yn y gymuned, i helpu pobl i symud ymlaen a chadw’n ddiogel, er mwyn cael annibyniaeth a rhoi diwedd ar gamdriniaeth.

Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA): Gweithwyr proffesiynol arbenigol yw IDVA, sy’n gweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig. Gallant helpu dioddefwr gyda phopeth sydd ei angen arnynt i fod yn ddiogel ac ailadeiladu eu bywyd a chynrychioli eu llais mewn Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC), yn ogystal â’u helpu i lywio’r system cyfiawnder troseddol gan weithio gyda’r gwahanol asiantaethau statudol.

Asesiad Risg DASH: Mae DASH yn sefyll am gam-drin domestig, stelcian, aflonyddu a thrais ar sail anrhydedd. Pan fydd rhywun yn dioddef cam-drin domestig, mae’n hanfodol bod asesiad cywir a chyflym o’r perygl maen nhw’n ei wynebu’n cael ei gynnal, er mwyn iddynt gael yr help cywir mor gyflym ag sy’n bosibl. Fel arfer, cyfres syml o gwestiynau fydd hyn, a fydd yn ei gwneud yn rhwydd canfod pa risg fydd rhywun yn ei wynebu, a beth allai fod ei angen arnynt er mwyn bod yn ddiogel ac iach. Mae sgôr uchel yn golygu bod y dioddefwr mewn risg uchel o lofruddiaeth a/neu niwed difrifol a bod angen help ar frys. Dylai’r dioddefwyr hyn gael help gan IDVA, a dylai’r holl asiantaethau lleol perthnasol uno mewn cyfarfod MARAC er mwyn llunio cynllun i’w cadw’n ddiogel.

Mae MARAC yn gyfarfod lle caiff gwybodaeth ei rhannu am yr achosion cam-drin domestig sydd â’r risg uchaf rhwng cynrychiolwyr yr heddlu lleol, ymarferwyr iechyd, amddiffyn plant a thai, Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig, y gwasanaeth prawf ac arbenigwyr eraill o’r sector statudol a’r sector gwirfoddol. Dylai proses MARAC fod â chysylltiadau agos gyda Diogelu.

Mae gan NSPCC gwnselwyr llinell gymorth wedi’u hyfforddi i ddarparu help, cyngor a chymorth 24/7 ar gyfer unrhyw bryderon am blentyn, gan gynnwys APVA. Anfonwch e-bost at help@nspcc.org.uk neu ffoniwch 0808 800 5000.

Mae Hourglass Cymru yn darparu llinell gymorth a chymorth arbenigol i bobl 65 oed a hŷn sy’n dioddef camdriniaeth. Ffoniwch 0808 808 8141 neu anfonwch neges destun at 07860052906.

Gall yr heddlu gyhoeddi Hysbysiad Gwarchod Trais Domestig. Bydd hyn yn gwarchod y dioddefwr rhag camdriniaeth am 48 awr. Os bydd yr heddlu’n credu bod y dioddefwr mewn perygl o hyd, gallant wneud cais i’r llys ynadon am Orchymyn Gwarchod Trais Domestig. Mae’r Gorchymyn yn darparu rhagor o amddiffyniad os bydd y dioddefwr yn byw gyda’r cyflawnwr, gan eu gwahardd rhag dychwelyd adref a chysylltu â’r dioddefwr a gall bara hyd at 28 diwrnod. Os na fydd y cyflawnwr yn cydymffurfio â’r Gorchymyn, gellir eu harestio a’u dwyn o flaen y llys.