Neidio i'r prif gynnwys

Stelcian ac Aflonyddu

Archwilio is-bynciau

Beth yw Stelcian ac Aflonyddu?

Mae aflonyddu’n golygu ymddygiad dieisiau gan rhywun arall sy’n gwneud i chi deimlo wedi cynhyrfu, wedi’ch cywilyddio, neu dan fygythiad.

Mae Stelcian yn: Batrwm o ymddygiad sefydlog ac obsesiynol a gaiff ei ailadrodd, sy’n gyson, yn ymwthiol ac sy’n achosi ofn rhag trais neu sy’n peri braw a gofid i’r dioddefwr. Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh

Mae seiber-stelcwyr yn cael eu gyrru gan yr un bwriad â stelcwyr nad ydynt yn ddigidol, sef bygwth neu godi cywilydd ar eu dioddefwyr. Y gwahaniaeth yw eu bod yn dibynnu ar dechnoleg fel cyfryngau cymdeithasol, negeseua gwib a negeseuon e-bost i wneud hyn. Gall seiber-stelcwyr ddefnyddio popeth ar y rhyngrwyd er mwyn gwneud cyswllt dieisiau â’u dioddefwyr.

Defnyddir aflonyddu a stelcian fel termau cyfnewidiadwy yn aml. Fodd bynnag, maen nhw’n berthnasol i droseddau tebyg ond gwahanol a all achosi niwed corfforol, seicolegol ac emosiynol i’w dioddefwyr, eu teuluoedd a phobl sy’n annwyl iddynt. Gall troseddwyr stelcio neu aflonyddu ar eu dioddefwyr mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • neges destun, neges ar beiriant ateb, llythyr neu neges e-bost
  • sylw neu fygythiad yn bersonol neu ar-lein (e.e. cyfryngau cymdeithasol neu ystafelloedd sgwrsio ar-lein)
  • sefyll y tu allan i dŷ rhywun neu yrru heibio iddo
  • gweithred dreisgar
  • difrod i eiddo rhywun arall
  • rhoi gwybod i’r heddlu am rhywun mewn modd maleisus ac anghywir, heb iddynt wneud unrhyw beth o’i le

Er gall yr ymddygiad stelcio gwirioneddol a ddangosir gan gyflawnwr amrywio, cânt eu hysgogi’n aml gan obsesiwn ac mae eu hymddygiad yn rhannu set gyson o nodweddion y cyfeirir atynt fel Fixed – Wedi’i sefydlogi, Obesssiynol – Obsesiynol, Unwelcome – Digroeso, Repetitive – Ailadroddus (FOUR)

Yn ôl canfyddiadau diweddar o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr 2019, roedd mwy na 1.47 miliwn o bobl wedi dioddef stelcian yn unig yn ystod y 12 mis diwethaf.

Darllen yr Adroddiad yma

Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

  • Cafodd Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 ei diwygio gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 i gynnwys dau drosedd penodol o stelcian trwy gynnwys adran 2A a 4A. Mae’n bosibl y bydd unigolyn a gaiff ei ddyfarnu’n euog dan y naill Ddeddf neu’r llall yn destun gorchymyn atal a fydd yn gwahardd y diffynnydd rhag gwneud unrhyw beth a gaiff ei ddisgrifio yn y gorchymyn. Gellir gwneud y gorchymyn yn ychwanegol at ddedfryd o garchar neu ddedfryd arall. Gall y gorchymyn fod yn ddefnyddiol i atal stelcian ac aflonyddu parhaus gan ddiffynyddion / cyflawnwyr.
  • Deddf Diogelu Rhyddidau 2012, caiff troseddau stelcian sydd hefyd yn ymwneud â hil a chrefydd eu cwmpasu dan Ran 11 atodlen 9.
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, mae Adran 32 Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn darparu ar gyfer dau drosedd aflonyddu sy’n gysylltiedig â hil neu grefydd.
  • Mae Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 yn ymestyn argaeledd gorchmynion atal i bob trosedd, gan roi pŵer i’r llys wneud gorchymyn atal hyd yn oed pan fydd unigolyn wedi’i gael yn ddieuog, er mwyn diogelu unigolyn rhag stelcian neu aflonyddu parhaus gan y diffynnydd.
  • Mae Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 yn nodi’r gofynion ar gyfer ymddygiad.
  • Mae Deddf Cyfraith Teulu 1996 Rhan IV yn caniatáu i ddioddefwr wneud cais am waharddeb trwy Lys Sirol dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997. Gall gwaharddeb wahardd y cyflawnwr rhag gwneud pethau penodol pan na fydd yr heddlu’n cyhuddo’r unigolyn.
  • Cyflwynwyd Gorchmynion Amddiffyn rhag Stelcian ym mis Ionawr 2020. Maen nhw’n caniatáu i lysoedd yng Nghymru a Lloegr symud yn gynt i wahardd stelcwyr rhag cysylltu â dioddefwyr neu fynd i’w cartref, man gwaith neu fan astudio. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i ddioddefwyr adfer o’u profiad. Yn ogystal â gwahardd cyflawnwyr rhag mynd at eu dioddefwyr, neu gysylltu â nhw, gall y Gorchmynion orfodi stelcwyr i geisio help proffesiynol hefyd.

Gellir gwneud cais am Orchmynion Gwarchod Rhag Stelcian a gyflwynir o dan y Ddeddf Gwarchod Rhag Stelcian 2019 ar unrhyw adeg nid yn unig cyn gollfarn i’r llys gan yr heddlu.

Llywodraeth y DU: Canllawiau ar Stelcian

Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh: Cyrsiau Ymwybyddiaeth o Stelcian wedi’u dylunio ar gyfer ymarferwyr rheng flaen ar draws gwasanaethau gan gynnwys yr Heddlu, Awdurdodau Lleol, Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ogystal â chyrsiau Corfforaethol.

Mae Ymddiriedolaeth Alice Ruggles yn darparu sgyrsiau awr o hyd, i becynnau hyfforddiant hanner diwrnod, ochr yn ochr ag elusennau eraill fel Protection Against Stalking.

Safe Lives: Cwrs stelcian ac aflonyddu. Cwrs hyfforddiant undydd i helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dioddefwyr i ddatblygu ymateb arfer gorau i stelcian trwy atal, asesiadau risg, diogelwch a chynllunio gweithredu.

Heddlu Sussex: Stalking Awareness Week 2019 A story behind the statistics Fideo YouTube

Dolenni defnyddiol

Y llinell gymorth Genedlaethol Stelcian 0808 802 0300

Ewch i’r Wefan

Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh

Ewch i’r Wefan

Llinell Cymorth i Ddioddefwyr

Ewch i’r Wefan

Stop Online Abuse 

Ewch i’r Wefan

Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin 

Ewch i’r Wefan

Protection Against Stalking 

Ewch i’r Wefan

Ymddiriedolaeth Alice Ruggles 

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Gall llinell gymorth Genedlaethol Stelcian ar 0808 802 0300 ddarparu cyngor a chymorth i unigolion sy’n dioddef stelcian. 

Ewch i’r Wefan

Mae gwefan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh hefyd yn darparu amrywiaeth o wahanol wybodaeth.

Ewch i’r Wefan

Ceisiwch gadw cofnod ysgrifenedig a chymryd gymaint o ragofalon ag a allwch. Gall hyn gynnwys cyfyngu ar faint o ddata gwybodaeth rydych chi’n ei ganiatáu o’ch dyfeisiau TG gan gynnwys ffôn symudol. 

Mae’n bwysig rhoi gwybod i’r Heddlu pan fo unrhyw dystiolaeth. Gallant roi awgrymiadau ychwanegol i chi er eich diogelwch eich hun. Gall clychau drws â chamerâu gynnig diogelwch ychwanegol, fodd bynnag, os nad ydynt wedi’u gosod yn iawn gyda lefel uchel o ddiogelwch, gellir eu defnyddio yn erbyn dioddefwr. Mae Apiau wedi’u datblygu i ganiatáu codio gyda llun er mwyn caniatáu i unigolyn weld lle mae rhywun arall trwy eu ffôn symudol. Er eu bod wedi’u gosod ar gyfer diogelu, gall cyflawnwyr troseddau eu defnyddio – dylai system gwrthfeirysau ar ddyfais symudol allu eu nodi a’u rhwystro.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael ar-lein gan Ymddiriedolaeth Alice Ruggles.

Ewch i’r Wefan