Neidio i'r prif gynnwys

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Amgylcheddol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Amgylcheddol?

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Amgylcheddol yw pan fydd “gweithredoedd person yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach, megis adeiladau neu fannau cyhoeddus.” (Heddlu Metropolitanaidd)

Mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Amgylcheddol yn cynnwys graffiti, fandaliaeth i gerbydau ac eiddo, tipio anghyfreithlon, gosod posteri’n anghyfreithlon, arogleuon annymunol, geriach cyffuriau wedi eu taflu ar y llawr, baw ci, rhwystrau ar y ffordd, tanau bwriadol a chardota ar y stryd. Ceir rhagor o enghreifftiau ar wefan ASB Help. 

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol yn cyfeirio at y rhyngwyneb rhwng pobl a llefydd. Mae’n cynnwys digwyddiadau lle bydd unigolion a grwpiau’n cael effaith ar yr hyn sydd o’u hamgylch, gan gynnwys amgylcheddau naturiol, cymdeithasol a rhai wedi eu hadeiladu.

Mae lleoliadau corfforol pobl a’r hyn sydd o’n hamgylch yn effeithio’n gadarnhaol neu’n negyddol ar ein hwyliau a’n hapusrwydd. Mae’r teimlad nad oes unrhyw un yn malio dim am ansawdd amgylchedd penodol yn gallu gwneud i’r rhai mae’r amgylchedd honno’n effeithio arnynt deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi. 

Gyda rhai troseddau amgylcheddol gall camau gweithredu adferol, er enghraifft dull unioni cymunedol ar gyfer troseddwyr, fod yn fwy addas fel eu bod yn gorfod glanhau’r hyn maent wedi ei wneud.

Mae’r Ddeddf hon yn amlinellu’r chwe ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sef: gwaharddebau sifil, gorchmynion ymddygiad troseddol; hysbysiadau amddiffyn cymunedol; gorchmynion gwarchod mannau agored cyhoeddus; gorchmynion cau; pwerau gwasgaru. Cyflwynwyd hefyd y sbardun cymunedol a dulliau unioni cymunedol.

  • Gwaharddebau sifil 

Mae llysoedd yn dyfarnu gwaharddebau i rwystro pobl rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir eu dyfarnu heb rybudd ond maent ar gael dim ond os oes trais wedi cael ei fygwth neu wedi cael ei ddefnyddio.

  • Gorchmynion ymddygiad troseddol

Fe’u rhoddir gan lys troseddol yn erbyn person sydd wedi ei gael yn euog o drosedd ac sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

  • Pwerau gwasgaru

Mae’r rhain yn galluogi’r heddlu i roi gorchymyn i berson sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.

  • Hysbysiadau amddiffyn cymunedol

Gall awdurdodau lleol, yr heddlu a rhai cymdeithasau tai eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o broblemau, megis taflu sbwriel a niwsans sŵn.

  • Gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus

Gall awdurdodau lleol eu defnyddio i atal ymddygiad parhaus, afresymol a/neu niweidiol.

  • Gorchmynion cau

Gorchymyn llys sy’n cau eiddo sy’n achosi niwsans, anrhefn neu ymddygiad troseddol difrifol, a gosod gwaharddiad dros dro ar ganiatáu i unrhyw un feddiannu’r eiddo.

  • Achos cymryd meddiant

Troi allan y cyflawnwr ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy’r llysoedd.

  • Resolve

Gwefan Resolve – mae’n cynnwys gwybodaeth am eu rhaglenni BTEC ac amryw o adnoddau eraill

  • ASB Help

Podcast Sbardun Cymunedol

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol

Gweminar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau

Dolenni Defnyddiol

ASB Help – gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr ac ymarferwyr 

Ewch i’r Wefan

Cymorth i Ddioddefwyr – gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer dioddefwyr 

Ewch i’r Wefan

Crimestoppers – gwybodaeth am beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i adrodd amdano 

Ewch i’r Wefan

Resolve – gwybodaeth a chyngor ar gyfer ymarferwyr

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae dulliau gorfodi amgylcheddol yn cynnwys amryw o bwerau deddfwriaethol sy’n 

cael eu gweinyddu gan dimau gwahanol o fewn awdurdodau lleol fel rhan o ymagwedd gorfforaethol. Mae hyn yn aml yn cynnwys iechyd yr amgylchedd / gwasanaeth rheoleiddio, a’r adran dai a chynllunio. Mae felly’n bwysig fod pobl yn rhoi gwybod i’r awdurdodau lleol am ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol.

Os byddwch yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai y bydd yn rhaid i chi helpu i roi tystiolaeth cyn y gellir cymryd camau gweithredu. Gofynnwch i’r sawl y byddwch yn adrodd wrthynt pa wybodaeth/tystiolaeth y bydd ei hangen arnynt. Mae defnyddio Apiau yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Efallai y bydd angen i chi ffonio’r heddlu ar 101 neu hyd yn oed 999 os yw’n argyfwng.

Mae ASB Help yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddynt hefyd wybodaeth am bwy y dylid dweud wrthynt, megis Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a Chymdeithasau Tai.

Mae Sbardun Cymunedol (a elwir hefyd yn adolygiad achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) ar gael drwy’r Awdurdodau Lleol (gweler y Cyfeirlyfr), neu drwy bedair gwefan yr heddlu (Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru). Os byddwch chi neu unrhyw un arall wedi adrodd am ddigwyddiadau dair neu ragor o weithiau o fewn chwe mis, yna gallwch ddefnyddio’r Sbardun er mwyn cynnal adolygiad fel bod yr asiantaethau’n ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol di-baid. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ASB Help.