Neidio i'r prif gynnwys

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Niwsans

Archwilio is-bynciau

Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Niwsans?

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Niwsans yw pan fydd “person yn achosi trafferthion, annifyrrwch neu ddioddefaint i gymuned.” (Heddlu Metropolitanaidd)

Nid yw’r math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol mor benodol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol personol, gan ei fod yn cael effaith ar y gymuned ehangach. Gall gynnwys niwsans sŵn, ymddygiad sy’n codi ofn, lle bydd pobl yn cael eu targedu ni waeth pwy ydynt, cam-drin geiriol, rhegi a thrais. Gall gynnwys defnyddio cerbydau er mwyn ei gwneud yn anodd i gymuned symud o gwmpas yn ddiogel. 

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol niwsans yn cynnwys lle bydd gweithred, cyflwr, peth neu berson yn achosi trafferthion, annifyrrwch, anghyfleustra, trosedd neu ddioddefaint i’r gymuned leol. Mae’n cynnwys digwyddiadau lle bydd ymddygiad yn mynd y tu hwnt i ffiniau confensiynol yr hyn sy’n dderbyniol a bydd yn ymyrryd â buddiannau’r cyhoedd, yn cynnwys iechyd, diogelwch ac ansawdd bywyd. Gall yr hyn a ystyrir yn ymddygiad derbyniol ac ymddygiad niwsans amrywio rhwng gwahanol gymunedau.

Gellir defnyddio neu gynnwys yr holl wahanol weithgareddau (gweler Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn) mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol niwsans. Y prif nodwedd yw ei fod yn targedu pobl, yn hytrach nag unigolyn neu grŵp penodol.

Gweler Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn am restr lawn o’r deddfwriaethau perthnasol. Yn benodol:

Mae’r Ddeddf hon yn amlinellu’r chwe ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sef: gwaharddebau sifil, gorchmynion ymddygiad troseddol; hysbysiadau amddiffyn cymunedol; gorchmynion gwarchod mannau agored cyhoeddus; gorchmynion cau; pwerau gwasgaru. Cyflwynwyd hefyd y sbardun cymunedol a dulliau unioni cymunedol.

  • Gwaharddebau sifil 

Mae llysoedd yn dyfarnu gwaharddebau i rwystro pobl rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir eu dyfarnu heb rybudd ond maent ar gael dim ond os oes trais wedi cael ei fygwth neu wedi cael ei ddefnyddio.

  • Gorchmynion ymddygiad troseddol

Fe’u rhoddir gan lys troseddol yn erbyn person sydd wedi ei gael yn euog o drosedd ac sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

  • Pwerau gwasgaru

Mae’r rhain yn galluogi’r heddlu i roi gorchymyn i berson sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.

  • Hysbysiadau amddiffyn cymunedol

Gall awdurdodau lleol, yr heddlu a rhai cymdeithasau tai eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o broblemau, megis taflu sbwriel a niwsans sŵn.

  • Gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus
  • Gall awdurdodau lleol eu defnyddio i atal ymddygiad parhaus, afresymol a/neu niweidiol.

Gall deddfwriaethau eraill fod yn berthnasol, yn dibynnu ar y math o ymddygiad gwrthgymdeithasol – er enghraifft Delio a Masnachu mewn Cyffuriau, Trais Difrifol a Throsedd Casineb.

  • Resolve

Gwefan Resolve  – mae’n cynnwys gwybodaeth am eu rhaglenni BTEC ac amryw o adnoddau eraill

  • ASB Help

Podcast Sbardun Cymunedol

  • Heddlu Hampshire a Concord Media

Niwsans (YouTube)

Dolenni Defnyddiol

ASB Help gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr ac ymarferwyr 

Ewch i’r Wefan

Cymorth i Ddioddefwyr – gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer dioddefwyr 

Ewch i’r Wefan

Crimestoppers – gwybodaeth am beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i adrodd amdano 

Ewch i’r Wefan

Resolve – gwybodaeth a chyngor ar gyfer ymarferwyr

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae ASB Help yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddynt hefyd wybodaeth am bwy y dylid dweud wrthynt, megis Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a Chymdeithasau Tai.

Mae Sbardun Cymunedol (a elwir hefyd yn adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol) ar gael drwy’r Awdurdodau Lleol (gweler y Cyfeirlyfr), neu drwy bedair gwefan yr heddlu (Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru). Os byddwch chi neu unrhyw un arall wedi adrodd am ddigwyddiadau dair neu ragor o weithiau o fewn chwe mis, yna gallwch ddefnyddio’r Sbardun er mwyn cynnal adolygiad fel bod yr asiantaethau’n ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol di-baid. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ASB Help.

Os byddwch yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai y bydd yn rhaid i chi helpu i roi tystiolaeth cyn y gellir cymryd camau gweithredu. Gofynnwch i’r sawl y byddwch yn dweud wrthynt pa wybodaeth/tystiolaeth y bydd ei hangen arnynt. Mae defnyddio Apiau yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Efallai y bydd angen i chi ffonio’r heddlu ar 101 neu hyd yn oed 999 os yw’n argyfwng.