Neidio i'r prif gynnwys

Cynlluniau Gwrthdyniadol

Archwilio is-bynciau

Beth yw’r Cynllun Gwrthdyniadol?

Mae llawer o wahanol fathau o gynlluniau gwrthdyniadol yn bodoli, fel arfer yn cael ei sefydlu trwy weithio mewn partneriaeth, i atal troseddu neu ail-droseddu ac yn aml yn rhan o ymyrraeth gynnar neu fentrau atal. Bydd gan gynlluniau wahanol feini prawf cymhwyso yn dibynnu ar yr unigolyn, y drosedd neu’r anghenion i’w targedu. Er enghraifft, merch yn troseddu, camddefnyddio sylweddau neu raglenni addysg. Gallent fod ar gael fel rhan o Ddatrysiadau Tu Allan i’r Llys i atal pobl rhag cyrraedd y System Cyfiawnder Ieuenctid neu System Cyfiawnder Oedolion. Gallan nhw fod yn rhan o Atal Trais, Dull Iechyd Y Cyhoedd neu fentrau Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar. Neu mi allen nhw fod yn rhan o raglen Rheoli Integredig Troseddwyr i leihau ail-droseddu.

Cynllun Gwrthdyniadol - YouTube

Beth yw Datrysiadau Tu Allan i’r Llys?

Mae Datrysiadau Tu Allan i’r Llys yn cynnwys “sawl dewis arall i gyhuddiadau ffurfiol ar gael i’r heddlu wrth ddelio gydag oedolion yn cynnwys rhybuddion ynglŷn â canabis, hysbysiad cosb am anrhefn cyhoeddus, datrysiad cymunedol, rhybuddion syml a rhybuddion amodol” (Y Cyngor Dedfrydu).

Gallai hyn gynnwys Cyfiawnder Adferol. Fodd bynnag mae beirniadaeth o ddatrysiadau o’r fath wedi bod sy’n achosi ‘loteri cod post’.

Enghreifftiau o gynlluniau gwrthdyniadol yn cynnwys:

  • Mae Cynllun Gwrthdyniadol Heddlu Dyfed Powys yn adeiladu ar y prosiect darganfod llwybr i ferched, i ddargyfeirio troseddwyr lefel isel i ffwrdd o Mae troseddwyr sy’n gymwys am ddatrysiadau tu allan i’r llys yn gallu cael y cymorth a’r arweiniad sydd ei angen arnyn nhw i gadw eu hunain allan o’r System Cyfiawnder Troseddol.
  • Nod Checkpoint Cymru, Gogledd Cymru yw darparu dewis credadwy yn lle erlyniaeth drwy adnabod a chefnogi anghenion perthnasol a’r ‘llwybrau critigol’ allan o droseddu, gyda’r canlyniad bod oedolion sy’n droseddwyr lefel isel a chanolig yn cael eu gwyro oddi wrth y System Cyfiawnder Troseddol gan hefyd fynd i’r afael ag achosion isorweddol ar gyfer eu hymddygiad troseddol.
  • Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn cynnal ymyraethau ar gyfer bobl ifanc sydd o bosib yn agos iawn i droseddu neu mewn risg o ail- droseddu, ac i helpu lleihau’r nifer o dannau bwriadol, ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â’r gwasanaeth tân, a gweithgaredd troseddol wedi’i dargedu (gweler hefyd Diogelwch Tân). Am wybodaeth ewch i Ymyrraethau Ieuenctid yn Ne Cymru, y Prosiect Pheonix yn MAWWFRS a Gogledd Cymru.
  • Mae Divert – Academi Cyfryngau Cymru yn defnyddio dull wedi’i arwain gan hawliau i Ddargyfeirio Cyfiawnder Troseddol. Mae holl bobl ifanc cymwys sydd wedi’u harestio ar gyfer troseddau lefel isel yn cael y cyfle i gael eu dargyfeirio o’r System Cyfiawnder Troseddol yn hytrach na wynebu mesurau mwy cosbedigol.

 

 

Beth yw Rhaglenni Merched a Throseddu Benywaidd?

Mae’r lleiafrif o droseddwyr yng Nghymru a Lloegr yn ferched, er mae llawer o’r merched hyn yn ddioddefwyr o drosedd eu hunain, ac wedi profi camdriniaeth corfforol neu emosiynol eu hunain (gweler Adroddiad Corston, 2007). Mae partneriaid yng Nghymru yn cydweithio i gefnogi troseddwyr benywaidd sydd, neu mewn risg o fod yn rhan o’r System Cyfiawnder Troseddol. Mae glasbrint troseddu benywaidd yng Nghymru a’i gynllun gweithredu yn cynnwys atebion cynaliadwy sy’n seiliedig yn y gymuned i gadw merched a chymunedau yn ddiogel ac yn rhydd o ymddygiad troseddol. Mae rhaglenni merched yn darparu ar gyfer anghenion penodol merched, yn hyrwyddo lles cadarnhaol ac yn cefnogi canlyniadau hirdymor llwyddiannus i leihau ail-droseddu.

Mae’r Academi Cyfiawnder Cymdeithasol yn rhwydwaith i rannu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer gorau i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol trwy wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas sifil. Mae aelodaeth am ddim ac yn cynnwys seminarau ar-lein ac yn rhanbarthol, gweithdai, cyfresi dysgu a chynadleddau. Digwyddiadau Diweddaraf.

Dolenni defnyddiol

Cynllun Dargyfeirio 18-25 | Canolfan Arloesi Cyfiawnder.

Ewch i’r Wefan

Cynllun Dargyfeirio Alcohol | Canolfan Arloesi Cyfiawnder.

Ewch i’r Wefan

Gwerthuso Brysbennu Merched Cymru Gyfan (Y Cynllun Dargyfeirio).

Ewch i’r Wefan

Datrysiadau Tu Allan i’r Llys – Ieuenctid: Canllaw i’r Heddlu a Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid.

Darllenwch yr Canllaw

Cyhuddo a Datrysiadau Tu allan i’r Llys – Strategaeth Genedlaethol.

Darllenwch yr Strategaeth

Asesiad Tystiolaeth o Ddatrysiadau Tu allan i’r Llys NPCC 2018.

Darllenwch yr Asesiad


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae gan Nacro Linell Gymorth ar gyfer Adsefydlu a Mwy sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i gyn-droseddwyr, caracharorion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw. Ffoniwch 0300 123 1999.

Mae gwefan Llinell Gymorth Genedlaethol i Deuluoedd Carcharorion ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd ag anwyliaid yn y system cyfiawnder troseddol. Ffoniwch 0808 808 2003 ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 8pm, dydd Sadwrn i ddydd Sul 10am – 3pm.

Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn rhedeg amryw o wasanaethau wedi’u dylunio i helpu cyn-droseddwyr gyda chyflogaeth, cymorth, hyfforddiant yn y gymuned, a thai/llety argyfwng. Ffoniwch 020 7708 8000.

Mae Unlock yn elusen annibynnol ar gyfer pobl gydag euogfarnau sy’n delio gyda’r effeithiau o gael cofnod troseddol. Maen nhw’n rhoi cyngor a chymorth ynglŷn ag agweddau fel sut i ddatgelu i gyflogwyr, gwiriadau cofnodion troseddol, cael yswiriant a theithio dramor trwy eu llinell gymorth gyfrinachol. Ffoniwch 01634 247350.

Mae Fy Nghofnod Cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr yn adnodd ar-lein am ddim sy’n cynnwys canllawiau rhyngweithiol (yn cynnwys y daith i gyfiawnder) i’ch helpu i symud ymlaen ar ôl trosedd. Hefyd gweler Dioddefwyr a Thystion.

Mae YMCA yn gweithio mewn partneriaeth gyda charchardai a gwasanaethau prawf i gefnogi troseddwyr gyda dinasyddiaeth a chyfleoedd hyfforddiant ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r carchar. Ffoniwch 0207 186 9500.

Mae gwasanaethau cymorth hefyd yn cael eu darparu yng Nghymru gan Ymddiriedolaeth Nelson; Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal i Garchardai (Pact); Cymru Ddiogelach; St Giles Cymru a Cyswllt Carchar (Pobl).